Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bygythiad terfysgaeth yn y DU yn un gwirioneddol, ond gydag ychydig o wybodaeth gallwch wella eich diogelwch a helpu i warchod eich hun rhag ymosodiad terfysgol. Isod fe welwch sut i gadw’n ddiogel pan fyddwch yn mynd o amgylch y lle a sut i riportio am unrhyw ymddygiad amheus a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Lawrlwythwch drawsgrifiad fideo Rhedwch Cuddiwch Dywedwch ar waelod y dudalen hon.
Cymunedau sy’n trechu terfysgaeth. Rydym angen cymorth a chefnogaeth unigolion, busnesau a chymunedau ledled y DU i fod yn wyliadwrus a chadw’r mannau yr ydym yn byw, gweithio a chymdeithasu ynddynt yn ddiogel.
Os byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth annisgwyl neu amheus, gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch (ACT - Action Counters Terrorism) drwy riportio am weithgarwch terfysgol posibl yn gyfrinachol. Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, felly mae’n well bod yn saff ac riportio am unrhyw beth yr ydych yn ei weld. Gallwch helpu’r heddlu i atal terfysgaeth ac arbed bywydau.
Rhai enghreifftiau o leoliadau a allai fod yn dargedau posibl ar gyfer terfysgwyr yw mannau poblog, digwyddiadau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau eiconig ar draws y wlad.
Rydych yn gyfarwydd â’ch gweithle a’r ardal o’i gwmpas, felly rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i weld os oes rhywbeth o’i le. Yn y cyfnod hwn mae’n hollbwysig aros yn wyliadwrus, gwrando ar eich greddf ac riportio am weithgarwch terfysgol posibl wrth yr heddlu.
Cadwch lygad am unrhyw beth sy’n edrych yn wahanol i’r arfer, megis:
Os ydych wedi bod yn dyst i unrhyw un o’r sefyllfaoedd uchod, gwrandewch ar eich greddf ac riportiwch amdano, yn gyfrinachol, gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i riportio am weithgarwch terfysgol posibl neu ffoniwch y llinell frys gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321. Bydd ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn delio â’r mater wedi hynny.
Mae pob sefyllfa’n wahanol ac rydym yn cydnabod y bydd gallu pobl i Redeg, Cuddio a Dweud yn amrywio am resymau megis oedran, ffitrwydd a gallu.
Pan nad yw rhedeg yn ddewis, dylech wneud pob ymdrech i symud o’r ardal mor gyflym ag y gallwch. Mae’r canllaw Rhedwch, Cuddiwch, Dywedwch yn nodi pwysigrwydd pobl sydd yn canfod eu hunain mewn sefyllfa o’r fath yn helpu’r bobl o’u cwmpas sydd angen help.
Os bydd ymosodiad yn digwydd mewn gweithle, mae gan gwmnïau ddyletswydd gofal i wneud yn siŵr bod cyflogeion anabl yn gallu gadael.
Os oes gennych nam ar eich clyw efallai na fyddwch yn gallu dweud o ba gyfeiriad y daw ergyd o wn ac felly efallai na fyddwch yn siŵr i ba gyfeiriad i fynd.
Y flaenoriaeth ar gyfer swyddogion sy’n ymateb i ymosodiad gydag arfau neu arfau saethu fydd asesu’r bygythiad a’r risg, yn ogystal â pha mor agored i niwed y gallai rhywun sydd yn canfod eu hunain yn y sefyllfa fod.
Mae ein swyddogion arfau saethu yn cael hyfforddiant craidd ar sut i fod yn ymwybodol o, a delio â, gwahanol gymunedau, yn cynnwys os oes gennych nam ar eich clyw, y rheini sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw neu sydd ag anawsterau gweithwyr neu synhwyraidd eraill.
Dewch o hyd i gyngor diogelwch ar gyfer eich busnes neu sefydliad.