Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oes gennych chi reswm i gredu bod rhywun yn wynebu risg uniongyrchol o beryglu eu hunain neu bobl eraill neu oes gennych chi bryder dros eu lles nhw ar hyn o bryd? Ffoniwch 999 nawr.
Gwasanaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol, adrannau gofal cymdeithasol, cartrefi gofal, ysgolion, staff y GIG, elusennau a phartneriaid ofyn am wiriad lles yw hwn.
Sylwch: Os byddwch chi’n cyflwyno ffurflen drwy'r gwasanaeth yma yn amhriodol, ni fydd yn cael ei chodi a'i thrin gan y tîm cywir.
Ydych chi'n gwybod bod y person yn wynebu risg? Ydych chi wedi bod i’r fan lle mae'r person ac wedi ceisio siarad â nhw?
Ydych chi'n gwybod ble maen nhw ond yn methu siarad â nhw i asesu'r risg?
Ydych chi wedi ceisio cysylltu ag unrhyw ffrindiau neu deulu i gael darlun clir o'r hyn sy'n digwydd?
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i unrhyw un neu ragor o'r uchod a bod yna bryder bod rhywbeth difrifol naill ai wedi digwydd neu am ddigwydd, cliciwch ar Dechrau isod i ofyn am wiriad lles.
Tra byddwch chi’n llenwi’r ffurflen, os gwelwch chi fod y sefyllfa wedi newid a bod y risg wedi cynyddu, ffoniwch 999.
Chawn ni ddim gorfodi mynediad oni bai bod risg go iawn i fywyd neu risg gorfforol neu er mwyn atal difrod difrifol i eiddo.
Er bod gennyn ni bŵer i fynd i fangre o dan Adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (1984), chawn ni mo’i ddefnyddio i gael mynediad pan fo pryder cyffredinol am les rhywun; mae gwir angen bod rhywun yn wynebu risg ddifrifol a dwys.
Efallai nad ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol i ddelio â'ch cais. Dim ond dan yr amodau canlynol y cawn ni gyflawni gwiriad lles:
Darllenwch ragor o wybodaeth am Gofal Cywir, Person Cywir.
Pan fyddwch chi’n cyflwyno ffurflen, dydyn ni ddim wedi derbyn cyfrifoldeb dros y cais yna. Rydyn ni’n cymryd amser i asesu pob cais. Dydyn ni ddim wedi cymryd cyfrifoldeb nes ein bod ni wedi cytuno i dderbyn y cais ac wedi cadarnhau hyn gyda chi. Tan hynny, chi sy'n gyfrifol am gymryd unrhyw gamau priodol.
Os ydych chi wedi bod trwy'r gwiriadau uchod ac yn deall pryd y gallwn ac na allwn helpu, a’ch bod chi’n awyddus i ofyn am wiriad lles, cliciwch ar Dechrau isod.