Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dychwelyd i neu symud i fyw yng Ngwent?
Mae Gwent yn rhanbarth amrywiol, sy’n cynnwys canol dinas bywiog, cefn gwlad prydferth a threfi llawn bywyd y cyfan o fewn munudau i’w gilydd.
Ers Ebrill 2015, mae ein plismona cymdogaeth wedi’i rannu yn ddwy ardal blismona leol, un yn y dwyrain, yn cynnwys Casnewydd a Sir Fynwy ac un yn y gorllewin, yn cynnwys Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae Heddlu Gwent yn awyddus i recriwtio'r trosglwyddiadau canlynol:
Cysylltwch â [email protected] i gael ffurflen gais.
Rhaid i chi fod wedi cwblhau eich cyfnod prawf a bod wedi eich cadarnhau yn eich rheng
Rydym yn gwirio ceisiadau i wneud yn siŵr bod ymgeiswyr wedi cwblhau eu cyfnod prawf a'u bod yn bodloni'r meini prawf dyrchafu cywir yn ddibynnol ar ba reng y gwnaed cais amdani.
Rydym yn gwirio cymhwysedd yn unol â chylchlythyrau'r Swyddfa Gartref yng nghanllawiau ACPO, er enghraifft rhaid gorchuddio tatŵs gyda lifrai.
Rhaid i chi beidio â chael tatŵs ar eich dwylo, gwddf, blaenau eich breichiau neu eich wyneb a allai beri tramgwydd i'r cyhoedd neu gydweithwyr, neu a allai gael eu hystyried i fod yn anllad, gorliwgar neu'n bryfoclyd.
Ditectifs
Ar gyfer swyddi ditectifs mae angen prawf o'r achrediad PIP (Rhaglen Proffesiynoli Ymchwiliadau) perthnasol hefyd:
Rydym yn sylweddoli y gall y broses ymgeisio fod yn hir a chymryd nifer o fisoedd. Nid oes gennym ni amserlen ar gyfer penodiadau ar hyn o bryd gan fod y broses recriwtio’n dechrau ar sail ad hoc. Bydd penodiadau’n dibynnu ar sgiliau ymgeiswyr ac ar swyddi gwag addas ledled ardal yr heddlu: ni ellir eu gwarantu.
Nodwch y rôl yr hoffech wneud cais amdani ar y ffurflen gais.
Byddwn yn sgorio'r dystiolaeth rydych wedi'i darparu o'ch sgiliau a'ch profiad. Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam hwn, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle bydd angen i chi greu a chyflwyno cyflwyniad 10 munud (rhoddir y pwnc i chi ar ddiwrnod y cyfweliad) wedi’i ddilyn gan gyfres o gwestiynau yn seiliedig ar gymhwysedd. Os byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu gwiriadau cefndirol.
Mae pwysigrwydd gonestrwydd ac uniondeb yn cael ei wneud yn glir trwy gydol ein proses ymgeisio. Mae swyddogion yn ddarostyngedig i'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol, sy'n nodi'n glir beth y gall cymunedau ei ddisgwyl gan eu swyddogion.
Bydd angen i bawb sy'n ymuno â Heddlu Gwent gwblhau proses fetio diogelwch.
Mae'n ddefnyddiol dechrau casglu'r canlynol gan y bydd eu hangen fel rhan o'r broses:
Manylion eich teulu/ffrindiau/cymdeithion, h.y.:
Manylion unrhyw gyswllt blaenorol â'r heddlu, e.e.:
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd agen i ni gwblhau gwaith fetio diogelwch ac ariannol (gan gynnwys gwiriad gydag adran Safonau Proffesiynol eich heddlu cartref), i'r lefel sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i gwblhau gwiriad Meddygol (a BMI), prawf ffitrwydd, a phrawf cyffuriau. Byddwn yn ceisio trefnu pob prawf ar gyfer yr un diwrnod ond ni allwn warantu hyn gan fod apwyntiadau'n dibynnu ar alw sefydliadol.
Byddwn hefyd yn cysylltu â'ch heddlu cartref ar yr adeg hon i gadarnhau cyfnodau o salwch, hyfforddiant, ac i gadarnhau eich cyflog/pensiwn.
Unwaith y byddwn wedi cwblhau'r holl wiriadau cefndir yn ogystal â chadarnhau gwybodaeth yr heddlu gartref, byddwn yn anfon cynnig terfynol o benodiad atoch yn cadarnhau'r swydd, y lleoliad, yr hyfforddiant ac ati.
Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau sefydlu am bythefnos er mwyn i chi fod yn gyfarwydd â systemau, polisïau a gweithdrefnau Gwent.
Ar ôl i chi gwblhau'r sesiynau sefydlu, byddwn yn eich gwahodd i fynychu seremoni ail-ardystio.
Byddwch yn mwynhau manteision cynllun pensiwn cyfrannol, sy’n Gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa (CARE).
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae gennym ni bolisi absenoldeb mamolaeth alwedigaethol llawn ar gael i holl weithwyr Heddlu Gwent. Cyfanswm o 52 wythnos o amser mamolaeth: 18 wythnos ar gyflog llawn, 21 wythnos o dâl mamolaeth statudol, a 13 wythnos o ddim cyflog. Mae hyn yn amodol ar hyd gwasanaeth. Mae gennym ni hefyd bolisi absenoldeb ar gyfer mabwysiadu.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
I hybu teithiau iachus i’r gwaith, mae Heddlu Gwent a Cycle Solutions wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfle i staff a swyddogion gael gostyngiad mawr oddi ar bris beic ac offer diogelwch, gan wasgaru’r gost dros 18 mis.
Gostyngiadau sefydliadol a ffordd o fyw gan gynnwys aelodaeth i gampfeydd (yn ogystal â champfeydd ar y safle), bwytai, prydau parod, teithio, cynhyrchion ariannol, cynllun gofal llygaid a mwy.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.