Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Coleg Plismona wedi cyflwyno pwyntiau mynediad uniongyrchol i’r heddlu ar rengoedd arolygydd ac uwch-arolygydd.
Mae’r hyfforddiant a rhaglenni datblygiad mynediad uniongyrchol arolygydd ac uwch-arolygydd yn newid sylfaenol a hanfodol i ddod â safbwyntiau, sgiliau a phrofiad newydd i’r heddlu, a fydd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon ac un sy’n gallu ymdopi â phwysau cynyddol heddiw a thu hwnt.
Mae’r Rhaglen Mynediad Uniongyrchol i Arolygydd yn cynnig hyfforddiant trwyadl a chymorth gwych wrth i chi ddechrau eich gyrfa yn yr heddlu. Gyda sgiliau arwain eisoes, byddwch yn datblygu eich galluoedd rheoli ac yn ennill sgiliau plismona go iawn. Ar ddiwedd y rhaglen 24 mis cynhwysfawr hwn, byddwch chi’n arolygydd gweithredol mewn iwnifform – yn cael effaith bositif ar blismona, y gymuned leol a’r gymdeithas yn ehangach.
Mae’r rhaglen wedi’i llunio i’ch herio chi, felly er nad oes angen i chi fod â phrofiad o blismona, mae’n hanfodol eich bod chi’n uchelgeisiol, yn gadarn ac yn benderfynol. Bydd hefyd angen i chi fod yn realistig o ran y gwaith sifft. Nid yw plismona yn swydd naw tan bump a gall yr oriau fod yn afreolaidd yn aml. I ffynnu ar y rhaglen hon, bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn fodlon addasu.
Rydych chi eisoes wedi profi eich bod chi’n arweinydd cryf, effeithiol a chreadigol - yn barod i roi datrysiadau beiddgar ar waith. Mae’r Rhaglen Mynediad Uniongyrchol i Uwch-arolygydd yn cynnig cyfle i chi gryfhau’r sgiliau hyn ac ymuno â rheng uchel ei barch. Mewn dim ond 18 mis, byddwch chi’n cwblhau cynllun datblygu eithriadol ac yn gweithio o fewn yr 1% uchaf o swyddogion yr heddlu.
Mae plismona yn newid yn gyson i anghenion sy’n newid, a dyna pam y mae angen syniadau ffres a safbwyntiau newydd arnom. Yn flaengar, uchelgeisiol a chadarn, byddwch chi’n mwynhau’r heriau hyn sy’n dod gyda’r swydd. Gyda chefndir cwbl wahanol i blismona, bydd eich safbwyntiau yn arbennig o werthfawr, a byddwch chi’n defnyddio eich profiad strategol i gael effaith positif ar y gymuned.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.