Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch Net Safe yn targedu pobl sy’n creu ac yn edrych ar ddelweddau rhywiol o bobl ifanc dan 18 oed ac yn eu rhannu ar-lein.
Ymgyrch Cymru gyfan ydyw sydd â thimau arbenigol o Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddelio â’r bygythiad, y risg a’r niwed sy’n deillio o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol ar-lein, i lleihau hynny.
Mae’r ymgyrch hon yn cyflawni amcanion Heddlu De Cymru a Chynllun Lleihau Trosedd 2016/21 a’n blaenoriaeth i ‘weithio i ddiogelu aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau’, a’r Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan i Fynd i’r Afael â Chamfanteisio Rhywiol ar Blant.
Fel rhan o’r ymgyrch hon, rydym yn gweithio’n agos gyda’r elusen diogelu plant Sefydliad Lucy Faithfull, y mae ei hymgyrch Stop it Now! yn cyfeirio troseddwyr, darpar droseddwyr, a’u hanwyliaid pryderus at linell gymorth gyfrinachol a dienw ac adnoddau hunangymorth er mwyn eu galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â’u hymddygiad.
Mae Ymgyrch Net Safe yn dwyn swyddogion heddlu a staff fforensig digidol hynod fedrus ynghyd i geisio dod o hyd i’r rheini sy’n ceisio defnyddio’r rhyngrwyd i weld a chyfnewid y delweddau hyn yng Nghymru.
Rydym yn defnyddio’r technegau ymchwiliol digidol diweddaraf i ganfod lle yng Nghymru y mae delweddau anghyfreithlon yn cael eu gwylio. Defnyddiwn y wybodaeth hon i wneud cais am warant chwilio er mwyn caniatáu i’r heddlu gynnal cyrch yng nghartref rhywun, atafaelu tystiolaeth a, lle bo hynny’n briodol, arestio’r rheini sy’n gysylltiedig.
Byddwn yn eich hysbysu am ddatblygiad a llwyddiant Ymgyrch Net Safe drwy gyhoeddi astudiaethau achos a phostio diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol – dilynwch ar #OperationNetSafe.
... a pham mae angen i rieni wybod am bobl debyg iddo?
Darganfwch fwy am ymgyrch newydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Chyngor Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n tynnu sylw at y risgiau mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio llwyfannau ffrydio byw?
Ar ddydd Llun 17 Hydref 2016 aeth swyddogion o Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru i gyfeiriad yn Nhreorci ac yno gwnaethant arestio Daniel McGowan. Gwnaethant gynnal chwiliad a dod o hyd i ffôn symudol yn ei ystafell wely a chanfod delweddau a fideos anweddus o blant ar ei ddyfais.
Ymddangosodd Daniel McGowan gerbron Llys y Goron Merthyr ym mis Rhagfyr 2016 lle cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd dan glo am fod ym meddiant lluniau anweddus o blant ac am ddosbarthu lluniau anweddus o blant.
Teithiodd Scott Nicholls o Taunton i westy yng Nghymru gan gredu ei fod yn cyfarfod â merch 12 oed i gael rhyw. Roedd wedi’i ganfod gan yr heddlu mewn ystafell sgwrsio ar-lein i rai yn eu harddegau. Plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd 2015 ac fe’i dedfrydwyd i chwe blynedd o garchar, gyda thrwydded pedair blynedd estynedig a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) 10 mlynedd.
Yn 2015 deliwyd â Malcolm Blount am fod ym meddiant delweddau o blant yn cael eu cam-drin. Fodd bynnag, aeth ymchwiliad yr heddlu ymlaen i ganfod ei fod hefyd yn bygwth plant agored i niwed ar-lein, ac yn eu blacmelio i anfon lluniau rhywiol anweddus ohonynt eu hunain ato.
Rhoddodd Heddlu De Cymru fesurau diogelu ar waith ar gyfer pob un o’r merched agored i niwed dan sylw, a llwyddom i ganfod troseddwr rhyw cofrestredig o ardal Hampshire yr oedd Blount yn rhannu delweddau anweddus o blant gydag ef, ac a oedd yn defnyddio proffil ar-lein o ferch 12 oed er mwyn cuddio pwy ydoedd mewn gwirionedd.
Plediodd Blount yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ac fe’i dedfrydwyd i ddwy flynedd o garchar a chafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.
Ymgyrch atal cam-drin plant yn rhywiol yw Stop it Now! a gynhelir gan Sefydliad Lucy Faithfull.
Mae’n cynnig ystod o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n bryderus am eu hymddygiad, am deulu neu ffrindiau sy’n poeni am ymddygiad rhywun y maent yn ei adnabod, ac am weithwyr proffesiynol sy’n ceisio cyngor.
Mynnwch gymorth os ydych yn:
Nod y ffilm gyntaf isod yw atal pobl rhag gwylio delweddau anweddus o blant ar-lein. Mae’r ail un yn eich tywys drwy’r pum cam y gallwch eu cymryd os ydych yn poeni bod rhywun yr ydych yn ei adnabod yn edrych ar luniau rhywiol anweddus o bobl ifanc o dan 18 oed.
Ffoniwch rif ffôn di-argyfwng yr heddlu 101 neu ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod mewn perygl ar hyn o bryd.
Neu gallwch riportio’r drosedd yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 neu fynd i Crimestoppers.