Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu menyw 74 oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhontllanfraith wedi talu teyrnged iddi.
Cafodd swyddogion eu galw i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd difrifolrhwng cerddwr a Toyota Yaris glas, a ddigwyddodd yn Nheras Pen-y-bryn, Heol y Bryn, Pontllanfraith tua 8.25am ddydd Llun 9 Tachwedd.
Cyhoeddwyd bod y cerddwr, menyw 74 oed, wedi marw yn y fan a'r lle. Gallwn hysbysu yn awr mai Ruth Taylor o Drelyn oedd hi.
Mae teulu Ruth Taylor wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
"Ruth oedd y fam, mam-gu, gwraig, chwaer a ffrind mwyaf cariadus, ffyddlon a charedig yr oedd yn bosibl ei chael. Bydd yn parhau i fod yn rhan o bob un ohonom am weddill ein hoes."
Mae ei theulu'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac yn gofyn i gael llonydd yn awr i alaru yn breifat.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio ac yn gofyn i unrhyw yrwyr a oedd yn defnyddio'r ffordd tua'r amser hwn wirio unrhyw ddelweddau camera car a allai ddarparu gwybodaeth bellach i'w helpu gyda'u hymholiadau.
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 2000408067