Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:33 15/11/2020
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i wrthdrawiad traffig ffyrdd marwol a ddigwyddodd ar Heol Hengoed, Hengoed ddydd Sadwrn 14 Tachwedd.
Daeth Renault Clio lliw arian oddi ar y ffordd tua 10.45pm.
Roedd tri o ddynion yn y car ar y pryd. Yn drist, bu farw un o'r dynion, Callum West, 27 oed o ardal Caerffili, yn y fan a'r lle. Mae ei deulu'n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r ddau ddyn arall yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ar hyn o bryd.
Hoffai swyddogion glywed gan unrhyw fodurwyr a oedd yn yr ardal ar y pryd sydd â delweddau camera car a allai helpu'r ymchwiliad.
Ffoniwch ni ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2000415717. Gallwch gysylltu â ni trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter hefyd.