Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lleisiwch eich barn yn ein grwpiau ffocws dioddefwyr a gynhelir yn hwyrach yn y mis.
Rydym am glywed am eich profiadau a'ch barn ar y ffordd rydym yn ymchwilio i drais domestig a thrais rhywiol.
Bydd eich barn a'ch safbwyntiau'n ein helpu ni i wella ein hymateb er mwyn sicrhau ein bod yn cadw pobl yn ddiogel rhag niwed.
Bydd y grwpiau ffocws rhithwir nesaf yn digwydd:
Bydd y grwp yn cael ei redeg gan Drefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr y llu a bydd yn gyfrinachol.
Dywedodd Liz Lowther, Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr: “Rydym wedi cael ymateb gwych gan oroeswyr yn ystod y grwpiau ffocws rydym wedi eu cynnal dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'r adborth wedi dylanwadu ar ein gwasanaeth gan gynnwys helpu i wella hyfforddiant ar gyfer swyddogion a staff.
"Mae eich barn yn bwysig iawn i ni a bydd yn helpu i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i ddioddefwyr cam-drin domestig a cham-drin rhywiol.
"Yn y grwpiau ffocws nesaf byddwn hefyd yn trafod cynlluniau arfaethedig i greu gr?p cyfeirio dioddefwyr. Nod y grwp arfaethedig hwn fydd cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda dioddefwyr i glywed sut gall eu profiadau lywio newid a gwelliannau ar draws y llu o ran gofal i ddioddefwyr.
“Rydym am gynnig y gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr a hoffwn annog unrhyw un â diddordeb mewn cymryd rhan yn y grwpiau ffocws i gysylltu â mi am ragor o wybodaeth am y digwyddiad. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ond am leisio barn ar eich profiad, cysylltwch â mi.”
Gall unrhyw un â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Liz Lowther trwy ffonio 0300 1232133 neu drwy gyfrwng e-bost [email protected]
Os ydych yn ddioddefwr, neu os ydych yn pryderu am rywun, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn 24/7 am gyngor a chymorth;
0808 80 10 800
Neges destun 0786 007 7333
E-bost [email protected]
Sgwrs fyw https://crowd.in/klN2Q4
Gallwch ffonio Heddlu Gwent ar 101 hefyd neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.