Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae enw’r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yng Nghaerffili wedi cael ei gyhoeddi.
Cawsom ein galw i hysbysiad am wrthdrawiad rhwng cerddwr a char yn Heol Bedwas, ychydig cyn 12.20pm ddydd Mawrth 6 Ebrill.
Gellir cyhoeddi yn awr mai Illtyd Morgan, 84 oed o Gaerffili, oedd y cerddwr a fu farw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu’n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Rydym yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth, nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto, i gysylltu â ni.
Gallwch roi gwybodaeth i ni drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100118696. Gallwch gysylltu â ni trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter hefyd.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.