Digwyddiad – Cilgant Maesglas, Casnewydd
Cynnwys y prif erthygl
Aeth swyddogion i eiddo yng Nghilgant Maesglas yng Nghasnewydd tua 9am ddydd Mercher 17 Chwefror yn dilyn pryderon am les unigolyn ar ôl i alwad brys gael ei wneud o’r cyfeiriad.
Pan gyrhaeddodd swyddogion roedd dyn 29 oed yn edrych fel petai’n dioddef pwl meddygol. Galwodd swyddogion ambiwlans ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol y Faenor lle y cyhoeddwyd ei fod wedi marw ychydig yn hwyrach.
Mae Heddlu Gwent wedi atgyfeirio’r digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn unol â gweithdrefnau safonol.