Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:08 08/02/2021
Mae tri o bobl wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Mae dau ddyn, 28 a 46 oed, ynghyd â menyw 28 oed, y tri ohonynt o Gasnewydd, wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffur a reolir dosbarth A - heroin.
Ymddangosodd y tri ohonynt yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn, 6 Chwefror.
Cawsant eu cadw yn y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf yn y llys ar 8 Mawrth.
Arestiwyd wyth o bobl yn rhan o Ymgyrch Alkane - ymchwiliad i gyflenwad cyffuriau dosbarth A.
Gweithredodd swyddogion warantau cyffuriau mewn saith cyfeiriad trwy Gasnewydd gyfan ddydd Iau, 4 Chwefror.
Atafaelwyd cyffuriau dosbarth A yn rhan o'r ymgyrch.
Y pump arall a gafodd eu harestio: