Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:53 27/01/2021
Heddiw yw Diwrnod Cofio'r Holocost, sy'n cael ei gynnal ar 27 Ionawr bob blwyddyn i gofnodi rhyddhau carcharorion Auschwitz.
Mae’n gyfle i ni ddysgu gwersi gan y gorffennol a chydnabod nad yw hil-laddiad yn rhywbeth sy’n digwydd dros nos - mae'n broses sy’n digwydd dros amser os nad yw gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb yn cael eu ffrwyno a'u hatal.
Er nad ydym mewn perygl dybryd o hil-laddiad yma yn y DU; mae gwahaniaethu o bob math yn dal i ddigwydd, ac mae iaith casineb ac allgau yn dal i gael ei defnyddio.
Mae llawer i'w wneud o hyd i greu dyfodol mwy diogel. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ddechrau'r broses hon.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 yw: byddwch y goleuni yn y tywyllwch. Mae'n annog pawb i fyfyrio ar y dyfnderoedd y gall y natur ddynol blymio iddynt, ond hefyd ar y ffyrdd y gall unigolion a chymunedau wrthsefyll y tywyllwch hwnnw er mwyn 'bod y goleuni' cyn, yn ystod ac wedi hil-laddiad.
Ni fyddwn fyth yn goddef unrhyw fath o drosedd casineb ac rydym yn sefyll yn gadarn gyda holl aelodau ein cymunedau.
Cysylltwch â ni trwy anfon neges uniongyrchol atom neu ffonio 101 neu 999 i riportio.