Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
‘Peidiwch â pheryglu eich hun a phobl eraill trwy gael parti yn y tŷ.’
Mae Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough yn gofyn yn daer ar gymunedau Gwent i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws.
Y penwythnos diwethaf, cafodd 54 o bobl eu dirwyo am dorri rheolau Covid-19, rhai ohonynt am gael partïon mewn tai.
Aeth swyddogion i bartïon mewn tai ym Mhont-y-pŵl, Casnewydd a Rhymni, Caerffili’r penwythnos diwethaf.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough: “Mae cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar yn dal mewn grym yng Nghymru, sy’n golygu y dylai pobl aros yn eu cartrefi eu hunain a pheidio â theithio oni bai bod hynny’n angenrheidiol. Mae cynnal partïon mewn tai a chymysgu ag aelwydydd eraill, dan do ac yn yr awyr agored, wedi’i wahardd gan reolau Llywodraeth Cymru.
“Mae trefnu partïon ac ymgasglu â phobl eraill yn beryglus, yn hunanol ac yn gwbl annerbyniol yng ngoleuni’r bygythiad rydym yn ei wynebu ar hyn o bryd. Peidiwch â pheryglu bywydau eich anwyliaid a’r gymuned ehangach trwy gael partïon mewn tai neu drwy ymgasglu â phobl eraill.
“Hoffem ddiolch i fwyafrif trigolion Gwent sy’n cadw at reolau Covid a byddwn yn parhau i ymgysylltu, esbonio ac annog ein cymunedau i gydweithio â ni er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
“Byddwn yn cymryd camau gweithredu yn erbyn pobl sy’n torri’r cyfyngiadau hyn yn ddi-hid. Mae lefelau Coronafeirws yn dal yn uchel yn llawer o ardaloedd Gwent a, thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae pob un ohonom yn achub bywydau ac yn amddiffyn y GIG.”