Heddlu Gwent yn diolch i gymunedau am eu cefnogaeth dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Cynnwys y prif erthygl
Yn dilyn cyfnod prysur dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman yn diolch i gymunedau am gefnogi ein swyddogion a oedd yn gweithio yn ystod y gwyliau ac am ddilyn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
Dywed Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
"Yn draddodiadol, cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yw'r amser prysuraf i wasanaethau brys, gyda mwy o alwadau i'n hystafell reoli nac ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.
“Eleni gwnaethom dderbyn dros 4,500 o alwadau gan y cyhoedd sy'n gyson â'r flwyddyn flaenorol.
“Bu'n rhaid i lawer o bobl newid eu cynlluniau yn sgil y pandemig. Cawsom ffurfio swigen Nadolig am un diwrnod cyn dychwelyd at gyfyngiadau mwy llym ar ôl Dydd Nadolig.
"Hoffwn ddiolch i'r mwyafrif o bobl a barchodd y sefyllfa mae pawb ohonom ynddi ac a helpodd ein cymunedau i arafu lledaeniad y feirws.
Rhwng 19 Rhagfyr 2020 a 4 Ionawr 2021 cyflwynodd Heddlu Gwent bron i 60 o hysbysiadau cosb benodedig.
Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn unigolion a fu’n haerllug ac a aeth yn groes i'r cyfyngiadau presennol. Roedd y canlynol ymysg rhai o'r esgusodion a roddwyd:
- Dod i Gymru i weld yr eira
- Mynd am dro yn y car i Fryste ar ôl cyfnod o hunan ynysu
- Teithio i Walsall i gael gwers bocsio
- Mynd i bartïon mewn tai
“Roedd galw mawr ar swyddogion oherwydd bod pobl yn mynd i bartïon mewn tai a chyflwynwyd 28 hysbysiad cosb benodedig yn ystod yr un cyfnod.
"Mae'n bwysig bod pawb yn deall y sefyllfa yng Nghymru. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan yn gwrthsefyll yr argyfwng iechyd.
"Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu ag unigolion a'u hannog nhw i ddilyn y canllawiau. Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy'n parhau i fynd yn groes iddynt.
"Mae'r lefel rhybudd presennol yn gofyn bod pawb yn ystyried eu cynlluniau teithio, yn aros yn lleol ac yn peidio â gadael cartref oni bai bod hynny'n hanfodol."
“Hoffwn ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw Gwent yn ddiogel.”