Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cawsom ein hysbysu am fyrgleriaeth yn Stryd Ross, Casnewydd, tua 7.15am dydd Mercher 14 Gorffennaf.
Mae swyddogion yn credu bod rhywun wedi torri i mewn i dŷ rhywbryd yn ystod y nos rhwng dydd Mawrth 13 Gorffennaf a dydd Mercher 14 Gorffennaf ac maent yn ymchwilio i’r mater.
Riportiodd y dioddefwr, menyw yn ei 70au, bod nifer o eitemau wedi cael eu cymryd, gan gynnwys bag llaw, seinyddion Bluetooth, gemwaith, potel o jin a dau bwrs. Aethpwyd â char y dioddefwr hefyd, ond mae wedi cael ei ddarganfod ers hynny.

Riportiodd y dioddefwr bod ei chardiau banc wedi cael eu defnyddio yn siop Spar ac yn y Tesco mawr ar Heol Caerdydd dydd Mercher 14 Gorffennaf.
Hoffai swyddogion siarad â'r dyn hwn, a oedd yn Tesco ar yr adeg pan gafodd y cardiau banc eu defnyddio, a allai ein cynorthwyo gyda'n hymholiadau.

Dywedodd Cwnstabl Heddlu Craig Toogood, swyddog yn yr achos:
"Mae'r dioddefwr wedi riportio bod unigolyn wedi mynd i mewn i'w chartref, trwy ffenestr ar y llawr gwaelod yn ôl pob tebyg, ac wedi cymryd nifer o eitemau o'r tu fewn i'r tŷ.
"Rydym yn gwybod bod cerdyn banc y dioddefwr wedi cael ei ddefnyddio yn ddiweddarach y Tesco mawr yng Nghasnewydd ar fore 14 Gorffennaf.
"Roedd y dyn yn y ddelwedd CCTV yn y siop ar y pryd, ac mae'n bosib bod ganddo wybodaeth ddefnyddiol a allai helpu ein hymchwiliad.
"Gofynnwn hefyd i unrhyw un sy'n cael cynnig prynu'r eitemau o'r rhai a restrir gysylltu â ni."

Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw fanylion a allai helpu ein hymchwiliad ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100246094.
Gallwch gysylltu â ni trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
