Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn annog unrhyw un sy'n ystyried prynu neu werthu nwyddau ar-lein i fod yn wyliadwrus rhag sgam sy'n cynnwys ap trosglwyddo banc ffug.
Mae gwerthwyr sy'n defnyddio safleoedd fel Facebook Marketplace, eBay a Gumtree, wedi rhoi gwybod i ni am achosion o dwyllwyr sy’n defnyddio ap bancio ffug i esgus talu am nwyddau y maen nhw wedi cytuno i'w prynu.
Mae dioddefwyr wedi adrodd bod y twyllwyr yn dangos sgrinlun ffug o'r 'taliad' ar yr ap bancio symudol ffug a phan fydd y taliad yn methu â chyrraedd cyfrif banc y gwerthwyr ar unwaith, mae'r prynwr yn teimlo'n rhwystredig gyda'r oedi ac yn gadael heb dalu am y nwyddau.
Mewn rhai achosion, gall y gwerthwr gael derbynneb ffug hefyd i ddangos bod y 'taliad' wedi ei brosesu.
Ein cyngor os ydych yn gwerthu/prynu ar-lein:
- Edrychwch ar broffil yr unigolyn: dysgwch fwy am yr unigolyn yr ydych yn prynu oddi wrtho/gwerthu iddo. Gallwch glicio ar broffil unigolyn ar y dudalen rhestru cynnyrch i weld unrhyw sgoriau y gallent fod wedi'u derbyn.
- Ystyriwch ddefnyddio cerdyn credyd wrth siopa ar-lein. Dylech hefyd ystyried defnyddio llwyfan talu ar-lein, fel PayPal, Apple Pay neu Google Pay. Mae defnyddio'r llwyfannau hyn i awdurdodi eich taliadau yn golygu nad yw'r sawl sy'n gwerthu yn gweld manylion eich taliad hyd yn oed. Maen nhw hefyd yn darparu eu trefn datrys anghydfod eu hunain pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le. Fodd bynnag, efallai na fyddant yn darparu'r un amddiffyniad â darparwr cerdyn, felly gwiriwch eu telerau ac amodau cyn i chi gofrestru.
- Archwiliwch yr eitem: Os yw'n bosibl, gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio neu'n profi'r eitem yn drylwyr cyn ei phrynu.
- Diogelwch eich gwybodaeth bersonol: rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn rhannu gwybodaeth bersonol, fel eich manylion mewngofnodi a chyfrinair taliadau neu wybodaeth cyfrif banc. Peidiwch â rhannu eich gwybodaeth ariannol bersonol i wneud na derbyn pryniant. Os ydych yn gwerthu nwyddau electronig, gwnewch yn siŵr eich bod wedi clirio unrhyw wybodaeth bersonol o'r ddyfais.
- Rhowch wybod am unigolyn: os byddwch yn gweld unrhyw weithredu amheus gan brynwr neu werthwr, rhowch wybod amdano i’r wefan yr ydych yn ei defnyddio ac Action Fraud ar-lein - actionfraud.police.uk, neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Mae mwy o gyngor sy'n benodol i'r safleoedd ar gael yma:
Facebook - http://orlo.uk/Gv4w2
eBay - http://orlo.uk/D9O6u
Gumtree - https://help.gumtree.com/s/safety