Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i hybu diogelwch ar y ffyrdd i fynd i'r afael â goryrru.
Mae cyflymder amhriodol yn cyfrannu at oddeutu 11% o'r holl wrthdrawiadau a adroddir i'r heddlu, gyda 15% o wrthdrawiadau yn arwain at anaf difrifol a 24% o wrthdrawiadau yn arwain at farwolaethau.
Ar y 26ain o Orffennaf, bydd Ymgyrch Cyflymder Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) yn cychwyn ledled y DU, gyda GanBwyll a phedwar Llu Heddlu Cymru yn cymryd rhan drwy ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch y risgiau o oryrru a gorfodi'r cyfyngiadau cyflymder ar y ffyrdd Cymru.
Yn 2019, danfonwyd 60,073 o Hysbysiadau Cosb Sefydlog (FPNs) at yrwyr yng Nghymru am oryrru.
Mae goryrru yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at wrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru. Mae hyn yn cynnwys ‘cyflymder gormodol’, lle eir yn uwch na’r cyfyngiad cyflymder, yn ogystal â gyrru o fewn y cyfyngder cyflymder pan fydd hyn yn rhy gyflym ar gyfer yr amodau ar y pryd; er enghraifft, mewn tywydd gwael neu gwelededd gwael.
Yn ystod cyfnodau clo, gwelsom lai o draffig ond cyflymderau uwch. Nawr, gyda’r cyfyngiadau yn codi, mae nifer y traffig ar i fyny a chan ein bod yn mynd ar wyliau yn y DU yn fwy, rydym yn gweld mwy o bobl yn goryrru ar y ffyrdd yng Nghymru. Rydym am newid hyn, ond dim ond gyda'ch help chi y gallwn wneud hynny.
Dros yr wythnosau nesaf fe welwch bresenoldeb cynyddol ar rwydwaith ffyrdd Cymru wrth i ni anelu at gadw holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn ddiogel a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd.
Gwyddom fod mwyafrif defnyddwyr y ffordd yn cydymffurfio â'r cyfyngder cyflymder; ond mae’r lleiafrif sydd ddim yn cydymffurfio yn cynyddu'r risg i ddiogelwch pob defnyddiwr ffordd ac mae angen eu haddysgu ar y risgiau i'w diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch y rhai o'u cwmpas.
Dywedodd y prif arolygydd Martyn Smith:
"Gall goryrru arwain at ganlyniadau difrifol, gan adael unigolion wedi'u hanafu'n ddifrifol neu waeth. Mae'n un o'r 'pum trosedd marwol' – y pum prif achos dros anafedigion ar ffyrdd y DU – sy'n cynnwys peidio â gwisgo gwregys diogelwch, defnyddio ffonau symudol, gyrru dan ddylanwad alcohol /cyffuriau a gyrru’n ddiofal.
"Rydym wedi ymrwymo i wella diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd yng Ngwent a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn goryrru yn cael ei erlyn.
"Mae terfynau cyflymder yn bodoli i ddiogelu bywydau, felly mae fy nghais yn syml, gyrrwch yn gyfrifol ac o fewn y terfyn cyflymder. Mae cadw pobl yn ddiogel ar ein ffyrdd yn fater y gall pawb fod yn rhan ohono; mae gan unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ran i'w chwarae i helpu i hyrwyddo gyrru mwy diogel."
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
“Mae GanBwyll yn gorfodi mewn safleoedd ledled Cymru er mwyn annog modurwyr i gydymffurfio â'r cyfyngiadau cyflymder ac yn ei dro, gwneud ein ffyrdd a'n cymunedau yn fwy diogel i bawb. Os ydym i gyd yn chwarae ein rhan ac yn sefyll lan dros arafu lawr gallwn wneud gwahaniaeth, a gallwn achub bywydau ar ffyrdd Cymru. ”
Dywedodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r ymgyrch hon. Mae gyrru ar gyflymder uchel yn costio bywydau a bydd mwy o bresenoldeb gan yr Heddlu ar ein ffyrdd yn golygu y bydd modurwyr yn fwy tebygol o yrru o fewn y cyfyngiadau cyflymder, amddiffyn bywydau ac osgoi dirwy goryrru. ”