Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:51 10/05/2021
Rydym yn ymchwilio i hysbysiad am ymosodiad ar ddyn yn Nheras Southend, Pontlotyn, dydd Llun 26 Ebrill ar ôl i dri dyn gael eu gweld yn ymladd yn y stryd tua 7.15pm.
Dyweder bod dyn wedi ymosod ar y dioddefwr a'i adael gydag anafiadau i'w ben. Yn ôl y disgrifiad roedd y dyn yn dal, yn denau ac yn gwisgo cap glas.
Mae swyddogion wedi arestio dyn 39 oed o ardal Pontlotyn ar amheuaeth o drosedd adran 18 - anafu bwriadol. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae ymholiadau'n parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw dystion a oedd yn yr ardal ar y pryd, yn arbennig modurwyr, i gysylltu â ni.
Gofynnir i unrhyw un a allai helpu ein hymholiadau, neu sydd â delweddau CCTV neu gamera car, ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100145724.
Gallwch anfon neges atom ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd neu gallwch roi gwybodaeth i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.