Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom ein galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, Caerffili tua 3.55pm ddydd Llun 8 Tachwedd, yn dilyn hysbysiadau am ymosodiad gan gi.

Cawsom ein galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, Caerffili tua 3.55pm ddydd Llun 8 Tachwedd, yn dilyn hysbysiadau am ymosodiad gan gi.
Aeth swyddogion i’r cyfeiriad, gan gynnwys swyddogion arfau tanio arbenigol, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a gadarnhaodd fod bachgen 10 oed wedi marw yno
Enw’r bachgen yw Jack Lis.
Arestiwyd menyw 28 oed o ardal Caerffili ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth. Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol yn ddiweddarach.
Daeth dau ddyn - un 34 oed o ardal Aberpennar ac un 19 oed o ardal Caerffili - i gyfweliad gwirfoddol mewn perthynas â throsedd o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth. Cafodd y ddau ohonynt eu rhyddhau yn ddiweddarach.
Meddai Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough:
“Wrth i’n hymchwiliad fynd rhagddo, byddwn yn tynnu ein gwarchodwyr safle trosedd o’r ardal ac mae’r gwaith o adnabod brid y ci yn mynd rhagddo hefyd.
“Gan ein bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o drosedd cysylltiedig â’r ymosodiad, ac wedi siarad â dau arall yn wirfoddol, rydym yn ceisio canfod unrhyw faterion troseddol posibl.
“Rwyf yn deall bod yr ymchwiliad hwn o ddiddordeb mawr i bobl yn ein cymunedau.
“Mae’n hollbwysig bod pobl yn ystyried tôn ac iaith unrhyw sylw ar gyfryngau cymdeithasol ynglŷn ag unrhyw un sy’n rhan o’n hymholiadau.
“Gan fod hwn yn ymchwiliad byw gallai sylwadau o’r fath effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un sy’n cael ei ganfod i fod wedi cyflawni trosedd gerbron y llysoedd.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ein ffonio ni ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100392510.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd. Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111.