Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi cael cydnabyddiaeth oddi wrth Cymorth i Ddioddefwyr am gymryd camau i wella ei ymateb a’i gefnogaeth i bobl sydd wedi dioddef a bod yn dyst i drosedd casineb.
Mae’r llu wedi derbyn achrediad newydd oddi wrth yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr.
Ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, mae hwn yn dangos ymroddiad y llu i ddatblygu ei wasanaethau.
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
“Mae trosedd casineb yn rhywbeth sy’n gallu effeithio ar lawer o wahanol rannau o’n cymunedau.
“Mae’n drosedd nad yw’n aml yn gadael craith gorfforol, ond mae’n gallu achosi niwed sylweddol felly mae’n bwysig bod dioddefwyr yn gwybod ein bod yn cymryd unrhyw hysbysiad am drosedd casineb o ddifrif.
“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi profi hyn i gyflwyno eu hunain a riportio’r mater yn uniongyrchol wrthym ni, neu wrth un o’n sefydliadau partner, er mwyn i ni allu eich helpu chi.”
Yn ddiweddar cyflwynodd Heddlu Gwent wasanaeth newydd o fewn Connect Gwent sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef ac yn dyst i drosedd. Mae’r Uned Gofal Dioddefwyr yn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn gwybodaeth amserol - o’r adeg pan maen nhw’n riportio’r drosedd trwy’r broses cyfiawnder troseddol.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi helpu llawer o bobl yn barod, gan gynnwys dioddefwyr trosedd casineb. Mae hyn yn ychwanegol at y 40 swyddog cymorth trosedd casineb sydd wedi’u hyfforddi’n arbenigol i ymateb i hysbysiadau am drosedd casineb.
Meddai Jessica Rees, Rheolwr Trosedd Casineb Cymru,Cymorth i Ddioddefwyr:
“Rydym yn falch bod Heddlu Gwent wedi cymryd camau i ennill achrediad Siartr Cymorth Trosedd Casineb Cymorth i Ddioddefwyr a’i fod yn parhau i ddatblygu ei wasanaethau i ddangos ei ymroddiad.
“Rydym yn cydnabod yr effaith bersonol ddwys mae trosedd casineb yn gallu ei gael a sut mae’n gallu effeithio ar ymdeimlad rhywun o ddiogelwch ac ar eu hunaniaeth.
“Hoffem annog unrhyw un sydd wedi profi neu wedi bod yn dyst i drosedd casineb i gyflwyno ei hun er mwyn cael y gefnogaeth i’ch helpu chi i symud ymlaen.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert:
“Ni fydd unrhyw fath o drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent. Mae’n drosedd afiach a chymhleth ac mae’n gallu achosi niwed corfforol ac emosiynol i droseddwyr sy’n parhau am flynyddoedd.
“Rydym wedi cael clod gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn y gorffennol am ein gwaith ar drosedd casineb, ac mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn dangos ein bod yn dal i weithio’n galed i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr y drosedd erchyll hon.”
Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb, mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau fideo sy’n annog pawb i ddathlu’r pethau sy’n wahanol amdanom ni i gyd, a hybu ffyrdd o riportio trosedd i’r heddlu.
Os ydych yn gweld neu’n dioddef trosedd, riportiwch y mater.
Gallwch ffonio Heddlu Gwent yn uniongyrchol ar 101, riportio ar y wefan neu anfon neges ar gyfryngau cymdeithasol. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Gallwch gysylltu â Report It Wales hefyd, gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan Cymorth i Ddioddefwyr.