Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Aeth swyddogion i leoliad gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A472 yn Hafodyrynys tua 12.35pm ddydd Iau 23 Medi.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng pedwar car – Nissan Juke gwyn, Peugeot 508 llwyd, Vauxhall Insignia arian a Ford Focus sydd hefyd yn gar heddlu plaen.
Dywedodd parafeddygon fod y teithiwr yn y Peugeot, menyw 75 oed o ardal Llan-ffwyst, wedi marw ar y safle. Mae ei pherthynas agosaf wedi cael ei hysbysu ac mae’n derbyn cymorth gan swyddog arbenigol.
Mae dyn 77 oed o ardal Llan-ffwyst, a oedd yn gyrru’r Peugeot, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl cael anafiadau i’w fraich a’i goes. Mae ei gyflwr yn sefydlog.
Roedd dau o swyddogion Heddlu Gwent – cwnstabl heddlu a swyddog cymorth cymunedol – yn teithio yn y car heddlu. Aethpwyd a’r ddau ohonynt i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth.
Mae’r cwnstabl heddlu wedi cael ei ryddhau ond mae’r swyddog cymorth cymunedol yn dal yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau sy’n newid bywyd.
Aeth dau deithiwr yn y Nissan Juke, menyw 27 oed a merch dwy oed o ardal Blaenau, i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân i wirio am fân anafiadau.
Derbyniodd teithiwr yn y Vauxhall, menyw 54 oed o ardal Markham, driniaeth ar y safle gan barafeddygon.
Dywedodd Rhingyll James Bailey, yr uwch swyddog ymchwilio:
“Mae ymholiadau’n parhau a hoffem ofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad hwn, nad ydynt wedi siarad â’r heddlu eto, gysylltu â ni.
“Gofynnwn i unrhyw un â delweddau CCTV neu gamera car gysylltu â ni hefyd.
“Gall unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2100335602, neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.
“Gallwn gadarnhau nad oedd y car heddlu a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad ar ei ffordd i alwad brys ar y pryd.
“Mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn unol â’r drefn arferol.”
Aeth personél o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i safle’r gwrthdrawiad, ac mae’r ffordd wedi cael ei hail agor yn awr.