Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:04 15/08/2022
Rydyn ni’n apelio am wybodaeth a thystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Heidenheim Drive, Casnewydd, tua 6.40pm ddydd Mawrth 9 Awst.
Cawsom ein hysbysu am wrthdrawiad traffig ffyrdd yn Heidenheim Drive, Casnewydd, tua 6.40pm ddydd Mawrth 9 Awst
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car a seiclwr. Aeth swyddogion i’r safle i helpu i reoli traffig.
Arestiwyd dyn 68 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o yrru peryglus, difrod troseddol ac ymosodiad. Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â ni.
Gofynnwn i unrhyw un a oedd yn Heidenheim Drive rhwng 6.30pm a 6.50pm ddydd Mawrth 9 Awst, neu unrhyw un â delweddau CCTV neu gamera car, ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, gan grybwyll rhif cofnod 2200268041, gydag unrhyw fanylion.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.