Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ddiweddar cwblhawyd gwaith i wella seilwaith CCTV yng nghanol tref Coed-duon.
Gosodwyd 18 camera digidol newydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn ardaloedd yn cynnwys canol y dref, yr orsaf fysys, maes parcio'r Stryd Fawr a mwy. Bydd y camerâu newydd hyn yn disodli cyfarpar hŷn a ddefnyddiwyd yn flaenorol yng nghanol y dref a'r gobaith yw y byddant yn sicrhau lluniau gwell ac yn dangos mwy o'r ardaloedd hyn.

Pwrpas y gwaith, a gyflawnwyd yn rhan o ymgyrch Strydoedd Saffach Heddlu Gwent, yw atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymdogaeth, a chynorthwyo swyddogion sy'n cynnal ymchwiliadau yn yr ardal.
Yn gynharach eleni, derbyniodd Heddlu Gwent bron i £750,000 o gyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cymdogaeth fel byrgleriaeth a dwyn ledled chwe ardal yng Ngwent – Alway, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Yn ddiweddar mae swyddogion sy’n rhan o’r prosiect wedi bod yn rhoi cyngor ac offer atal trosedd am ddim i drigolion yn yr ardaloedd hyn, ac mae ymgyrchoedd atal gyda'r nod o ysbrydoli pobl ifanc i gadw'n glir rhag trosedd yn cael eu cyflwyno yn Alway a Chwmbrân. [link to Always release once live]
Bydd partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn monitro'r rhwydwaith CCTV yng Nghoed-duon 24/7, ac yn adrodd yn uniongyrchol wrth yr heddlu yn ystod digwyddiadau o argyfwng.
Meddai Prif Arolygydd Hannah Lawton:
"Dylai pawb deimlo'n ddiogel lle maen nhw'n byw a gweithio ac rydyn ni'n gobeithio y bydd gosod y camerâu newydd hyn yng Nghoed-duon yn tawelu meddwl y gymuned bod yr heddlu a'r awdurdod lleol yn cydweithio i atal trosedd ac i adnabod unrhyw un sy'n benderfynol o gyflawni trosedd.
“Bydd y camerâu newydd, sydd â thechnoleg isgoch ac sy'n darparu delweddau o ansawdd uwch na'r rhai blaenorol, yn gweithredu fel dull ychwanegol o atal trosedd i bobl sy'n ystyried unrhyw ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol ac yn gwella ein gallu i gasglu tystiolaeth hanfodol pan fydd trosedd yn cael ei chyflawni.
“Rwyf yn ddiolchgar am y bartneriaeth gadarnhaol barhaus gyda'r cyngor i sicrhau bod pobl leol yn elwa ar y cynllun Strydoedd Saffach.”
Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio ac Amddiffyn y Cyhoedd: "Rydyn ni'n hapus iawn i gyhoeddi bod 18 camera newydd wedi cael eu gosod ledled Coed-duon. Rydyn ni'n hyderus y bydd y camerâu newydd yn gweithio i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel bod yr ardal yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.
“Hoffem ddiolch i Heddlu Gwent am eu cymorth gyda'r prosiect a'u partneriaeth barhaus.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Heddlu Gwent i fynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth, ewch i https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/campaigns/campaigns/2021/safer-streets/.