Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd mwy o batrolau trwy gydol y penwythnos wrth i dîm plismona cymdogaeth Caerffili gymryd camau cadarn yn erbyn y bobl oedd yn creu aflonyddwch, dychryn neu ofid.
Rhoddodd y gorchymyn bwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os oedd eu hymddygiad yn debygol o gyfrannu at anhrefn yn y gymuned.
Arweiniodd y pwerau ychwanegol a roddwyd i swyddogion at ddau arést.
Arestiwyd bachgen 17 oed ar amheuaeth o gyflawni trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ac arestiwyd menyw 40 oed ar amheuaeth o dorri hysbysiad gwarchod y gymuned.
Cyhoeddodd swyddogion dri hysbysiad am droseddau traffig ffyrdd hefyd am droseddau'n cynnwys gyrru heb yswiriant, saith hysbysiad gwasgaru, a gwnaethant gynnal chwe achos o stopio a chwilio (yr arweiniodd un ohonynt at atafaelu cyffuriau rheoledig).
Meddai Arolygydd Cymdogaeth Canol Caerffili, Andrew Boucher:
"Rydym wedi ymroi i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac unrhyw ymddygiad sy'n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion yn yr ardal.
"Yn ystod yr ymgyrch ar y penwythnos, gwnaethom gyhoeddi gorchymyn gwasgaru a defnyddio swyddogion ychwanegol i roi sylw i'r cynnydd diweddar mewn hysbysiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid - gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ysgolion lleol a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid - i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r broblem o bob cyfeiriad."