Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd marwol a ddigwyddodd tua 10.15am ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.
Digwyddodd ar Heol Fochriw, ger y chwarel llechi.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng Citroen C3 glas a Ford Ranger gwyn.
Mae dwy fenyw yn y Citroen, 30 a 79 oed, wedi marw ac anafwyd bachgen 3 oed ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty lle mae mewn cyflwr sefydlog.
Mae’r teulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Aethpwyd â dyn 22 oed a oedd yn y Ford Ranger i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac mae’n dal yno mewn cyflwr sefydlog.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd honno adeg y gwrthdrawiad, sydd â lluniau camera car neu unrhyw wybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad ein ffonio ni ar 101, gan ddyfynnu 2200241300 neu gallwch anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar Facebook neu Twitter.