Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Richard Marc Ash, 57, wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel ‘person hyfryd’.
Mae teulu dyn a fu farw yng Nghaerffili ddydd Sul 17 Gorffennaf wedi ei ddisgrifio fel dyn ‘hyfryd’.
Galwyd swyddogion i gyfeiriad yn Long Row, Elliots Town, tua 00.40 ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn ddiymateb.
Aeth parafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r lleoliad a chadarnhau bod dyn 57 oed wedi marw; gallwn gadarnhau yn awr mai Richard Marc Ash yw ei enw.
Mae ei rieni wedi rhyddhau’r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Richard Marc yn berson mewnblyg, hyfryd. Roedd fy ngwraig a minnau mor lwcus i fod yn rhieni iddo.
“Mae pawb oedd yn adnabod Richard Marc yn llawn canmoliaeth am y math o ddyn oedd ef.
“Roedd yn berson hyfryd a byddwn yn ei gofio fel hynny am byth.”
Rydym wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth ac arestiwyd menyw 31 oed o Gaerffili ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd ei chyhuddo o’r drosedd hon yn hwyrach a chafodd ei chadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd.
Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad hwn ar hyn o bryd.