Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn o Poole a fu farw yn Nhrefynwy ddydd Sul 26 Mehefin wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel mab ‘hyfryd’ a ‘chariadus’.
Aeth swyddogion i’r lleoliad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn ddiymateb yn Monnow Street am 1.15am.
Aethpwyd ag Andrew Nicholas, 43 oed o Poole, i’r ysbyty ond bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.
Mae ei deulu wedi rhyddhau’r datganiad canlynol:
“Mae calonnau pawb ohonom wedi torri y tu hwnt i eiriau gan golled frawychus ac annerbyniol Andrew, yr oedd pawb yn ei adnabod fel Bandy.
“Roedd yn fab, brawd ac ewythr anhygoel, hyfryd a chariadus i’w dair nith a oedd yn ei addoli.
“Roedd yn sbortsmon hysbys ac uchel ei barch yn chwarae pêl-droed lled broffesiynol a’i gariad mawr, golff.
“Mae ei farwolaeth wedi dinistrio’r gymuned golff lleol a’i glwb golff lle’r oedd yn aelod allweddol, yn hyrwyddwr ac yn ffrind i gymaint.
“Roedd yn gwneud llawer iawn gyda’r clwb ac roedd yn rhedeg digwyddiadau elusennol a digwyddiadau cefnogi yn ystod Covid i gefnogi’r GIG.
“Mae aelodau’r clwb yn ei ddisgrifio fel arwr a gŵr bonheddig go iawn.
“Mae’r twll sydd wedi cael ei adael ym mywydau cymaint o bobl yn un na ellir byth ei lenwi, a bydd y boen gyda ni am weddill ein hoes. Ni fyddwn byth yn anghofio’r golled.
“Mae’r geiriau caredig o gariad a chefnogaeth rydym ni fel teulu wedi eu derbyn wedi bod yn anhygoel.”
Arestiwyd tri dyn – un 21 oed a dau 19 oed – o ardal Trefynwy ar amheuaeth o ymosodiad.
Roedd dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo yn gynharach o ymosodiad ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau 30 Mehefin lle cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth 26 Gorffennaf.
Cafodd ail ddyn 19 oed ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, a rhyddhawyd y dyn 21 oed yn ddiweddarach heb ei gyhuddo.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau CCTV neu gamera car o Monnow Street, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu rhif cofnod 2200213333.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.