Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion lleol yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol Casnewydd.
Mae ein Hymgyrch Ashton yn nodi troseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghasnewydd ac yn atal troseddau pellach.
Mae ein swyddogion yn cynnal y cyrsiau ymyrraeth hyn ochr yn ochr â phartneriaid, i addysgu troseddwyr am yr effaith y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei chael ar ganol y ddinas, gan gynnwys busnesau lleol a'r effeithiau y gall alcohol a chyffuriau eu cael ar y corff.
Cyn belled â bod troseddwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan weithredol yn y cwrs, ac nad ydynt yn ymweld â chanol y ddinas nac yn cyflawni troseddau pellach yn ystod y pedair wythnos hyn, bydd eu trosedd ymddygiad gwrthgymdeithasol flaenorol yn cael ei chau, ac ni chymerir unrhyw gamau pellach.
Os byddant yn cyflawni troseddau pellach yn ystod neu ar ôl y cwrs, byddant naill ai'n cael eu rhoi o dan atgyfeiriad atal neu byddant yn cael eu cyhuddo, yn dibynnu ar eu hymwneud â'n cynllun ymyrraeth. Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n parhau i leihau aildroseddu.
O'n dwy garfan gyntaf, pasiodd 19 o droseddwyr (86%) y cwrs ac nid ydynt wedi cyflawni troseddau pellach nac wedi ymweld â chanol Casnewydd. Dim ond 3 throseddwr (14%) a fethodd y cwrs ac maent bellach yn mynd drwy'r llwybr atgyfeirio troseddol.
Dywedodd yr Arolygydd Shaun Conway: "Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn annerbyniol bob amser: mae'n effeithio ar ansawdd bywyd ein cymunedau ac ni fydd byth yn cael ei oddef.
"Rydym yn parhau i feddwl am ffyrdd newydd o weithredu yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n achosi niwed yn ein cymunedau. Mae'r dull newydd hwn eisoes wedi arwain at fusnesau lleol yng nghanol y ddinas yn cydnabod gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol."