Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O dan y ddeddf hon gallodd ein swyddogion a’r tîm Safonau Masnach gyflwyno hysbysiad cau i’r perchennog tir.
Yn dilyn pryderon gan y cyhoedd, ddydd Mawrth gweithredodd ein tîm Dangos y Drws i Drosedd a thîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili warant mewn safle anghyfreithlon yn Rhymni, Caerffili, o dan y Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013.
O dan y ddeddf hon, roedd ein swyddogion a’r tîm Safonau Masnach yn gallu cyflwyno hysbysiad cau i’r perchennog tir, a fydd yn peidio â masnachu yn awr ac yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i glirio’r safle. Os na fydd yn gwneud hynny byddwn yn gallu symud ymlaen trwy broses y llysoedd.
Mae’r ddeddfwriaeth i’w gweld yma: Scrap Metal Dealers Act 2013 (legislation.gov.uk)
Mae ein tîm Dangos y Drws i Drosedd yn parhau i weithio’n agos gyda gwerthwyr nwyddau ail law a masnachwyr sgrap ledled Gwent, yn rhoi canllawiau iddynt ac yn rhannu mwy o wybodaeth gyda nhw. Mae hyn yn atal nwyddau sydd wedi’u dwyn rhag cael eu hail werthu, gan ei gwneud yn anoddach i droseddwyr elwa ar drosedd. Mae ein tîm DyDiD hefyd yn adolygu pob achos o ddwyn ar draws y llu ac yn anfon rhybuddion am nwyddau wedi’u dwyn at bob gwerthwr nwyddau ail law.
I weld y tîm yn gweithio, edrychwch yma.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon, e-bostiwch [email protected]