Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:00 23/05/2022
Meddai Uwch-arolygydd Vicki Townsend:
“Mae ein swyddogion yn cadw cysylltiad agos ac yn rhoi cymorth i deulu’r bachgen ifanc. Pan oedd yn gadael tir yr ysgol ar ôl yr ymosodiad derbyniodd anaf difrifol i’w law, a gafodd ei dal mewn ffens.
“Ers i ni dderbyn yr adroddiad hwn, ddydd Mercher 18 Mai, mae’r digwyddiad wedi ennyn llawer o ddiddordeb a sylw. Gofynnaf yn daer ar bobl i feddwl am yr effaith y gallai eu negeseuon a sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol ei chael ar y bobl sydd wedi’u heffeithio, wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r ysgol ac mae swyddogion yn dal i wneud ymholiadau yn yr ardal.”
Gall unrhyw un ag unrhyw wybodaeth a allai helpu ymchwiliad yr heddlu ein ffonio ni ar 101, gan grybwyll 2200165495, neu anfon neges uniongyrchol aton ni.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi rhyddhau’r datganiad canlynol: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/news/abertillery-learning-community/