Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein Huned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol wedi ymuno â thimau plismona cymdogaeth i roi sylw i yrru gwrthgymdeithasol o gwmpas Casnewydd a Sir Fynwy.
Cynhaliwyd Ymgyrch Drift ddydd Sul 23 Hydref gyda'r nod o fynd i'r afael ag achosion o geir yn ymgynnull a gyrru gwrthgymdeithasol yn ne Sir Fynwy a dwyrain Casnewydd.
Cynhaliodd ein timau wiriadau gorfodi rheolau cyflymder yng Ngwndy, Rogiet, Cil-y-coed, ffordd gyswllt Dyffryn Gwy, Cas-gwent, A48, M4 a'r A4810 rhwng Spytty a Magwyr.
Dyma'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y dydd:
Mae hyn yn ychwanegol at y 40 hysbysiad trosedd traffig a gyhoeddwyd ddydd Mercher 19 Hydref am oryrru ar yr A4810.
Byddwn yn ceisio cynnal gweithgareddau tebyg yn ystod yr wythnosau nesaf i dargedu gyrru gwrthgymdeithasol.
Meddai Cwnstabl Heddlu Sean Fletcher:
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau diogelwch pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd, a cherddwyr. Mae hynny'n golygu gyrru'n ofalus ac yn gyfrifol.
“Mae pobl sy'n dewis torri'r gyfraith ar ein ffyrdd nid yn unig yn peri risg iddyn nhw eu hunain ond i bobl eraill hefyd.
“Rydym wedi ymroi i wella diogelwch ar y ffyrdd i bawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yng Ngwent ac mae Ymgyrch Drift yn un o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â'r troseddau moduro hyn.
"Rwyf yn gobeithio y bydd canlyniadau'r ymgyrch hwn yn anfon neges glir bod gyrru'n anghyfrifol yn annerbyniol ac y byddwn yn ymdrin yn gadarn â phobl sy'n gwneud hynny.”