Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y gorchymyn mewn grym rhwng 7pm dydd Gwener 23 Medi a 7pm dydd Sul 25 Medi, yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Bydd gorchymyn gwasgaru ar gyfer rhannau o Gasnewydd yn dod i rym am 7pm heddiw (dydd Gwener 23 Medi) yn dilyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y gorchymyn mewn grym tan 7pm dydd Sul 25 Medi a bydd yn cynnwys ardal canol dinas Casnewydd.
Mae'r ardaloedd sy'n rhan o'r gorchymyn yn cynnwys Stow Hill, Usk Way a'r ffyrdd o amgylch fel y dangosir ar y map isod.
Meddai Arolygydd Shaun Conway:
"Yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan drigolion a busnesau yng nghanol Casnewydd, rydym wedi cyhoeddi'r gorchymyn gwasgaru hwn. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngwent.
"Mae ein swyddogion wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau a byddant yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n benderfynol o achosi niwed neu anhrefn.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac os gwelwch chi ni ar batrôl, arhoswch i siarad â ni.
"Fel arall gallwch riportio eich pryderon drwy ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter."
Mae gorchmynion gwasgaru'n rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion anfon grwpiau o'r ardal os ydynt yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu'n afreolus, os ydynt yn aflonyddu, dychryn neu'n peri gofid i aelodau'r cyhoedd, neu os yw eu hymddygiad yn debygol o arwain at hynny.
Os byddant yn dychwelyd i'r ardal honno ar ôl cael eu symud, byddant yn wynebu cael eu harestio.