Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Benjamin Lloyd, 27, wedi talu teyrnged iddo.
Galwyd ni i gyfeiriad ar Heol Cefn Llan, Abertridwr, tua 9.45am nos Sul 2 Ebrill wedi i ddyn gael ei ganfod yn ddiymateb mewn eiddo.
Aeth swyddogion a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i’r cyfeiriad gan gadarnhau bod dyn 27 oed wedi marw; gellir bellach cyhoeddi mai ei enw yw Benjamin Lloyd.
Arestiodd swyddogion yr heddlu ddyn 28 oed, o ardal Caerffili, ar amheuaeth o lofruddiaeth; mae bellach wedi ei gyhuddo o ddynladdiad ac mae yn y ddalfa. Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd heddiw (Dydd Mercher 5 Ebrill).
Rydym yn rhannu’r deyrnged ganlynol ar ran y teulu:
"Benjamin Leonard Lloyd, un o ŵyr bonheddig y byd.
"Roedd Ben mor hapus a phositif, roedd bob amser yn siriol ac yn frwdfrydig. Roedd yn ddyn caredig a hael a oedd yn gweithio’n galed ac roedd ganddo lawer o ffrindiau. Byddech yn ei chael yn anodd dod o hyd i unrhyw un a oedd â gair drwg i’w ddweud am Ben.
"Mae’n gadael ar ei ôl nifer fawr o deulu a ffrindiau a fydd yn teimlo ei absenoldeb am byth.
"Roedd yn fab, yn frawd ac yn ewythr anhygoel. Mae 6 phlentyn sydd wedi torri eu calonnau a fydd yn colli chwarae ymladd a phryfocio eu hewythr Ben pan fyddai’n dod draw am 'goffi tawel'.
"Wrth dyfu i fyny mewn teulu â phump o blant a bod yr unig fachgen, rwy’n siŵr bod Ben yn aml wedi teimlo ein bod ni’r merched yn drech nag e’ ac yn y blynyddoedd diweddarach roedd yn teimlo cywilydd pan fyddem ni’n ei gynnwys yn ein 'sgyrsiau merched' a byddai’n dweud "ie, dyna fy arwydd i adael!"
"Roedd Ben bob amser yn jocian ac yn ysgafnhau pob sefyllfa, roedd yn seren mor llachar yn y byd hwn ac rydyn ni’n siŵr y bydd yn disgleirio yr un mor llachar yn y byd nesaf."
Rydym yn dal i apelio ar unrhyw un a oedd yn Stryd White, yn ymyl y llyfrgell, a welodd ffrwgwd rhwng dau ddyn rhwng 8pm a 10pm nos Sadwrn 1 Ebrill, neu unrhyw un ag unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad, i ffonio 101 gan grybwyll cyfeirnod 2300105165 neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
