Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein timau plismona cymdogaeth wedi bod yn brysur yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG).
Bob dydd mae ein swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned yn ymgysylltu â thrigolion, ysgolion a busnesau lleol, cynnal ymgyrchoedd a gweithio gyda sefydliadau partner i gynnig gweithgareddau i helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth o'i effaith ar ansawdd bywyd bob dydd. Yr wythnos yma rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i ddangos rhai enghreifftiau o sut rydyn ni'n gwneud hyn.
Dyma rai o'r pethau y bu ein timau'n eu gwneud ddydd Llun, cadwch eich llygaid ar agor am fwy i ddod trwy'r wythnos yma...
- Ymunodd swyddogion Betws â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ddenu pobl oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodi/lleihau unrhyw dargedau tanau bwriadol a difrod troseddol posibl.
- Aeth ein swyddogion cyswllt ysgolion i Ysgol Gynradd Maesycwmer i siarad â'r plant am beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut mae'n gallu effeithio ar bobl eraill.
- Aethom i ymweld â'r tîm Heddlu Bach yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar, Dyffryn - roedd yn hyfryd eich gweld chi!
- Gwnaed tri atgyfeiriad ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn difrod a tharfu yn Aldi, Bedwas.
- Gweithiodd swyddogion gyda United Welsh yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Bedwas.
- Cynhaliwyd gwiriadau cyflymder ym Machen a Draethen yn dilyn pryderon gan drigolion yno.
- Aeth ein fan gemau i Barc Coffa Rhyfel Rhymni lle siaradodd swyddogion â phobl ifanc lleol a gofyn iddyn nhw sut maen nhw'n credu y dylid mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal - diolch am eich syniadau!
- Gweithiodd swyddogion Dwyrain Casnewydd ochr yn ochr â Chartrefi Dinas Casnewydd i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol a chanlyniadau tipio anghyfreithlon.
- Gwnaethom gynnal cymhorthfa agored yn Shaftesbury i drafod unrhyw broblemau neu bryderon lleol.
- Aeth swyddogion dinas Casnewydd ar batrôl ym maes parcio Prifysgol De Cymru yn dilyn cwpwl o adroddiadau am ddifrod troseddol.
- Cafodd swyddogion eu herio i gêm o bêl-fasged gan y tîm yng Nghlwb Ieuenctid Cyswllt Cymunedol Dyffryn – ‘dyw hi dal ddim yn glir pwy enillodd!
Gwaith gwych pawb!
#WythnosYmwybyddiaethYG