Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llofruddiodd Andrew Southwood Carl Ball yn ei gartref ym mis Awst 2022 a derbyniodd ddedfryd o isafswm o 20 mlynedd yn y carchar.
Mae dyn o Gasnewydd wedi derbyn dedfryd o garchar am oes am lofruddio Carl Ball.
Ymddangosodd Andrew Southwood, 39, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 20 Gorffennaf ar gyfer gwrandawiad dedfrydu ar ôl i reithgor ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Llofruddiodd Southwood Carl Ball, 51, y tu allan i’w gartref yng Nghasnewydd ddydd Gwener 19 Awst 2022.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Nick Wilkie, yr uwch swyddog ymchwilio yn yr achos:
“Nid yw Andrew Southwood wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei drosedd a cheisiodd gamarwain swyddogion wrth iddyn nhw ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Carl Ball.
“Yn y pen draw arweiniodd y catalog o dystiolaeth a gasglwyd tan y tîm ymchwilio ac a gyflwynwyd i’r rheithgor at euogfarn i Southwood.
"Gwaith swyddogion heddlu yw cadw’r cyhoedd yn ddiogel ac mae dyletswydd arnom ni i amddiffyn pob aelod o’n cymunedau os bydd trosedd yn cael ei chyflawni.
"Mae’r achos yma’n enghraifft o gymryd y gyfraith yn eich dwylo eich hun – mae un bywyd wedi’i golli a bydd un arall yn cael ei dreulio yn y carchar.
“Yn ystod yr achos yma mae’r teulu wedi clywed manylion poenus am farwolaeth eu hanwylyn a chydymdeimlwn â nhw. Gobeithio y bydd canlyniad yr achos yn eu helpu nhw i symud ymlaen gyda’u bywydau."
Derbyniodd Southwood ddedfryd o garchar am oes am lofruddiaeth a bydd yn treulio isafswm o 20 mlynedd yn y carchar.