Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiodd swyddogion ddau ddyn ar amheuaeth o dyfu cyffuriau dosbarth-B ar ôl i ffatri tyfu canabis ‘ar raddfa fawr’ gael ei darganfod mewn adeilad ym Mhontnewydd ddydd Mercher.
Cawsom adroddiadau bod ffatri tyfu canabis yn gweithredu mewn cyfeiriad yn ardal Pontnewydd, Cwmbrân.
Pan gyrhaeddodd swyddogion, yn ôl pob son gwelsant ddau ddyn yn rhedeg i ffwrdd o’r adeilad. Rhedodd y swyddogion ar eu holau cyn eu dal a’u harestio nhw.
Arestiwyd y ddau ddyn, 25 a 33 oed, ar amheuaeth o dyfu cyffur dosbarth-B (canabis). Cawsant eu cyhuddo’n ddiweddarach o gynhyrchu cyffur a reolir dosbarth-B – canabis – ac maen nhw i fod i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener 24 Mawrth.
Chwiliodd swyddogion o dîm plismona cymdogaeth Torfaen yr adeilad a daethant o hyd i oddeutu 700 o blanhigion dros y tri llawr.

Meddai Arolygydd Tinsley-Brustad:
"Rydyn ni wedi ymroi i amddiffyn ein cymunedau rhag cyffuriau a’r troseddau sy’n gysylltiedig â’u cyflenwi, y mae pob un ohonynt yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, cymunedau a busnesau lleol.
"Mae ein swyddogion wedi chwilio’r eiddo ac wedi tarfu ar waith tyfu cyffuriau mawr yng Ngwent. Roedd hwn yn ganfyddiad sylweddol.
"Yn dilyn archwiliad, cafodd y cnwd ei atafaelu a’i ddifa.
"Gofynnwn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu bryderon am ddelio neu gyflenwi cyffuriau yn eu hardal nhw gysylltu drwy ein ffonio ni ar 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”