Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y rhifyn hwn o'n blog Dangos y Drws i Drosedd (DyDiD) misol, byddwn yn edrych ar y gwaith mae ein timau troseddau meddiangar wedi bod yn ei wneud ledled Gwent.
Mae ein tîm DyDiD yn cynnwys swyddogion a staff ar draws Gwent, ac maen nhw'n gwneud gwaith ochr yn ochr â'n swyddogion troseddau cefn gwlad, yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dyma’r hyn a gyflawnodd y tîm ym mis Chwefror:
Rhoddodd hyfforddwyr bregusrwydd ac ecsbloetiaeth y tîm hyfforddiant i 113 o bobl ar sut i adnabod arwyddion ecsbloetio.
Ym mis Chwefror bu gostyngiadau yn y grwpiau troseddau meddiangar hefyd, megis dwyn a byrgleriaeth breswyl.
Bu gostyngiad 23% mewn byrgleriaeth breswyl o gymharu â mis Ionawr, a gostyngiad 24% o gymharu â'r cyfartaledd misol yn 2021 a 2022.
Dywedodd Arolygydd Carl Morgan:
"Mae'r gwaith mae'r tîm yn ei wneud bob dydd mor bwysig yn helpu i gadw preswylwyr a busnesau ledled Gwent yn ddiogel.
"Drwy weithio gydag adrannau eraill yr heddlu ac asiantaethau partner, mae'r tîm yn gallu cynnal digwyddiadau a sesiynau sy'n eu helpu nhw i hysbysu'r cyhoedd am droseddau meddiangar a darparu cyngor ar atal trosedd.
"Mae 2023 wedi dechrau'n wych, ac rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy o'r gwaith pwysig y mae'r tîm yma’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn."
Edrychwch sut mae'r tîm wedi cyflawni'r canlyniadau hyn...
Trefnodd y tîm ddigwyddiadau marcio beiciau yng Nghasnewydd a Glynebwy, lle cafodd 18 beic eu marcio'n defnyddio Bike Register.
Trwy gofrestru ar gyfer Bike Register a marcio eich beic, rydych chi'n fwy tebygol o gael eich beic wedi ei ddychwelyd atoch chi os bydd yn cael ei ddwyn.

Aeth y tîm DyDiD a’r tîm troseddau cefn gwlad i gynhadledd troseddau solar DeterTech yn Telford. Cawsant gyfle i drafod y broblem o droseddau ar ffermydd solar gydag arweinwyr y diwydiant, a dysgu tactegau a datrysiadau atal trosedd newydd a oedd yn benodol ar gyfer y diwydiant pŵer solar.
Helpodd y gynhadledd y ddau dîm i greu partneriaethau gwaith a chysylltiadau newydd ar gyfer ffermydd solar yng Ngwent, a fydd yn galluogi staff i greu map o'r holl safleoedd ffermydd solar ar draws Gwent.

Cwblhaodd swyddogion busnes DyDiD a'n tîm troseddau cefn gwlad gwrs tri diwrnod ar archwilio cerbydau wedi'u dwyn. Ar y cwrs, gwnaethant ddysgu sut i adnabod cerbydau wedi'u dwyn, gan gynnwys cerbydau amaethyddol a pheiriannau mawr.
Mae'r sgiliau arbenigol ychwanegol hyn yn hanfodol er mwyn i swyddogion allu cyflawni eu swyddi.

Troseddau cefn gwlad
Mae'r tîm troseddau cefn gwlad wedi cael mis prysur hefyd.
Dyma rai o’r achosion y gwnaethant ymdrin â nhw yn ystod y mis:
Ein partneriaid, digwyddiadau, a’r gymuned
Mae ein tîm yn parhau i weithio gyda'r gymuned a’n partneriaid i amddiffyn y cyhoedd a busnesau.
Maen nhw’n gweithio i adnabod tueddiadau troseddu, sicrhau bod gwaith ataliol yn cael ei wneud, cefnogi dioddefwyr trosedd ac adnabod y rhai sy'n cyflawni troseddau yn ein cymunedau.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill ac i weld ble maen nhw’n cael eu cynnal yn y gymuned, dilynwch y tîm ar Twitter neu ewch i'w tudalen ar ein gwefan.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut gall y tîm eich helpu chi, anfonwch e-bost at [email protected].
Os ydych chi’n dyst i drosedd, ffoniwch 101, defnyddiwch ein system riportio ar-lein, neu anfonwch neges atom ni ar Facebook a Twitter. Gallwch riportio wrth Crimestoppers hefyd yn gwbl ddienw - ar eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.