Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n gwybod ei bod yn hawdd cael eich temtio i brynu e-sgwter, yn arbennig gyda’r Nadolig ar ddod. Ond os ydych chi’n meddwl cael un i chi’ch hun neu i rywun arall, mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod beth yw’r gyfraith o ran bod yn berchen arnyn nhw a ble a sut y gallwch chi eu defnyddio nhw.
Ystyrir e-sgwteri yn Gerbydau Trydanol Ysgafn Personol (PLEVs), felly maent yn yr un dosbarth â cherbyd modur ac yn atebol i'r un gofynion cyfreithiol â cherbyd modur o dan Y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Maen nhw’n atebol i’r un gofynion cyfreithiol a char neu fan, fel:
Ar hyn o bryd, ni allwch gael yswiriant ar gyfer e-sgwteri sy’n eiddo preifat, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon eu defnyddio nhw ar y ffordd, ar y palmant neu mewn mannau cyhoeddus, fel parc.
Os ydych chi’n defnyddio e-sgwter preifat at dir cyhoeddus, gallai eich cerbyd gael ei atafaelu ac o bosibl gallech chi wynebu canlyniadau pellach.
Meddai Arolygydd Leighton Healan, o’n tîm Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol (RPSO):
“Nid teganau yw e-sgwteri ac er y gallai fod yn demtasiwn eu prynu nhw fel anrheg Nadolig, neu fanteisio ar y prisiau is sydd yn y sêls ar hyn o bryd i chi eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud ymchwil ac yn deall y gyfraith sy’n ymwneud â’u defnyddio nhw.
“Nid yn unig mae yn erbyn y gyfraith i’w reidio nhw mewn mannau cyhoeddus, sy’n gallu arwain at bwyntiau cosb a hysbysiadau cosb benodedig, gall fod yn beryglus – i ddiogelwch y reidiwr a phobl eraill.
“Os ydych chi o dan 16 oed ac yn cael eich dal yn reidio un o’r sgwteri yma mewn man cyhoeddus, gallech gael eich effeithio pan fydd hi’n amser ymgeisio am drwydded yrru yn y dyfodol. Ar ben hynny, os ydych chi’n rhan o wrthdrawiad, gallai eich rhieni gael eu herlyn hefyd.
“Caniateir defnyddio e-sgwteri ar dir preifat, gyda chaniatâd perchennog y tir, ond mae’n hollbwysig eich bod chi’n gwisgo’r cyfarpar diogelu a argymhellir pan fyddwch yn eu defnyddio, er mwyn cadw eich hun yn ddiogel.”
Cosbau a throseddau
Mae reidio e-sgwter yn anghyfreithlon yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol.
Os nad oes gennych chi drwydded, neu’r drwydded gywir, neu os ydych chi’n gyrru heb yswiriant, gallech chi dderbyn hysbysiad cosb benodedig:
Os yw’r reidiwr yn rhy ifanc i ddal trwydded ar adeg y drosedd, bydd y pwyntiau’n cael eu hychwanegu at ei drwydded pan fydd yn ymgeisio am un yn y dyfodol.
Gallech chi fod yn cyflawni trosedd os cewch eich dal yn gwneud y canlynol:
Os ydych chi’n defnyddio e-sgwter mewn ffordd wrthgymdeithasol yn gyhoeddus, hyd yn oed gyda’r yswiriant a’r drwydded iawn, rydych mewn perygl o gael yr e-sgwter wedi ei atafaelu o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu.
Pan fyddwch yn reidio e-sgwter, rydym yn argymell defnyddio cyfarpar diogelwch fel helmed.