Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelwyd cyfanswm o 4,500 o blanhigion canabis gan swyddogion yn rhan o’n mesurau llym i darfu ar weithgareddau llinellau cyffuriau yng Ngwent.
Datgymalwyd dwy fferm canabis fawr, adferwyd 18 cilogram o amffetamin ac atafaelwyd £1,400 o arian parod yn rhan o’r wythnos weithredu genedlaethol i fynd i’r afael â llinellau cyffuriau.
Arestiwyd 14 o bobl ac mae wyth ohonynt wedi cael eu cyhuddo o droseddau cysylltiedig â chyflenwi, cynhyrchu neu symud cyffuriau dosbarth A neu B, yn dilyn ymgyrchoedd a gynhaliwyd rhwng dydd Llun 9 Hydref a dydd Sul 15 Hydref.
Cafodd dau o bobl a oedd mewn perygl o ecsbloetiaeth eu diogelu hefyd.
Daethpwyd o hyd i swmp o gocên a chymerwyd ffonau symudol a chyfarpar tyfu ymaith gan swyddogion yn rhan o’r gweithredu.
Meddai Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew:
“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i wasgu’n dynn ar linellau cyffuriau, sy’n dod â gofid i’n cymunedau trwy ddelio cyffuriau a thrais.
“Mae’r bobl sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau wedi addasu’r ffordd maen nhw’n gweithio, ar ôl pwysau cyson gan yr heddlu ar eu gweithgareddau anghyfreithlon, trwy dargedu pobl agored i niwed yng ngwahanol ardaloedd y wlad i symud cyffuriau ar eu rhan.
"Rydyn ni wedi ymroi i ddwyn pobl sy’n gyfrifol am drais ac ecsbloetiaeth gerbron y llysoedd.
“Mae llawer o lwybrau ar gael i ni, gan gynnwys defnyddio mwy o ddeddfwriaeth caethwasiaeth fodern, i dargedu’r rhai sy’n dal llinellau.”
Model dosbarthu cyffuriau yn defnyddio ffonau symudol yw llinellau cyffuriau, lle mae cyffuriau’n cael eu symud o ddinasoedd mawr i ardaloedd eraill, yn aml yn defnyddio plant ac oedolion agored i niwed.
Gweithredodd swyddogion warantau, o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, mewn cyfeiriadau ledled y sir gan gynnwys yng Nghasnewydd, Cwmbrân ac Abercarn.
Daeth swyddogion o hyd i fwy na 4,450 o blanhigion canabis mewn tri chyfeiriad yng Nghasnewydd, gan ddatgymalu dau gnwd mawr mewn cyn adeiladau masnachol.
Yn ystod gwarantau mewn dau gyfeiriad yng Nghwmbrân, atafaelodd yr heddlu gilogram o ganabis, swmp o gocên, £1,000 o arian parod a phum arf, ynghyd â chetris arfau tanio.
Arestiodd swyddogion bedwar o bobl mewn cysylltiad â chyflenwi canabis mewn cyfeiriad yng Nghasnewydd.
Cyhuddwyd dyn 47 oed o ardal Casnewydd o feddu ar gyffuriau dosbarth A a B gyda bwriad o gyflenwi ar ôl i swyddogion stopio car yng Nghasnewydd.
Yn rhan o’r wythnos o weithredu, pwysleisiodd swyddogion beryglon ymwneud â llinellau cyffuriau trwy siarad â phlant, rhieni, athrawon a thrigolion yng Nghas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr, Bargod a Chaerffili.
Cynhaliodd swyddogion batrolau yng nghanol dinas Casnewydd i chwilio am blant mewn perygl o ecsbloetiaeth a gwnaethant siarad ag oedolion mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol a’u recriwtio i fod yn rhan o linellau cyffuriau.
Meddai Ditectif Arolygydd Bartholomew: “Mae rhan fawr o’r wythnosau o weithredu yma’n ymwneud â dysgu pobl ifanc a phobl agored i niwed am beryglon llinellau cyffuriau ac arwyddion ecsbloetiaeth.
“Un ffordd o reoli er mwyn ecsbloetio pobl agored i niwed i fod yn rhan o linellau cyffuriau yw trwy ddefnyddio eu cartref fel lleoliad ar gyfer delio cyffuriau; proses sy’n cael ei hadnabod fel cogio.
“Rhoddodd ein swyddogion gyngor diogelu mewn tri chyfeiriad yn Sir Fynwy a gwnaethant gwrdd â staff Cartrefi Dinas Casnewydd i drafod y risg bod eu preswylwyr yn cael eu cogio a’u hecsbloetio i gymryd rhan mewn llinellau cyffuriau.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybodaeth i ni er mwyn i ni helpu i ddiogelu’r bobl agored i niwed yma, gan gynnwys plant.
“Trwy darfu ar linellau cyffuriau a rhwystro’r rhai sy’n rhan ohonynt rhag gweithredu, gallwn wneud cymunedau Gwent yn fwy diogel. Ond ni allwn wneud hyn heb gefnogaeth a gwybodaeth gan drigolion.”
Os oes gennych chi unrhyw bryderon bod rhywun rydych yn ei adnabod yn cael ei ecsbloetio neu os oes gennych chi bryderon am ddelio cyffuriau yn eich ardal, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.