Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau eiddo yng Nghasnewydd a oedd y gysylltiedig â nifer o gŵynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu cau yn dilyn gorchymyn llys.
Cafodd y gorchmynion cau, a fydd yn parhau mewn grym am dri mis, eu caniatáu ddydd Llun 4 Medi ar gyfer cyfeiriadau yn Tetbury Close a Shaftesbury Walk ar ôl i nifer o gŵynion gael eu gwneud am ddefnyddio cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr adeiladau.
Bydd unrhyw un sy’n ceisio mynd i mewn i’r adeiladau yma yn groes i’r hysbysiad yn gallu cael eu harestio gan yr heddlu yn ystod cyfnod y gorchymyn cau.
Meddai Cwnstabl Heddlu Claire Drayton, y Swyddog Lleihau Trosedd ac Anhrefn ar gyfer Pilgwenlli:
“Rydyn ni wedi cael nifer o alwadau gan y gymuned ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau yn gysylltiedig â’r cyfeiriadau yma. Mae’r ymddygiad yma’n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn tawelu meddwl trigolion os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ynghylch eiddo sy’n peri problemau, gallan nhw riportio’r mater a byddwn yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid i gymryd camau gweithredu.
“Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni a gofynnaf yn daer ar unrhyw un ag unrhyw bryderon i gysylltu â ni.”
Gallwch riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy:
📞 ffonio 101
💻 defnyddio’r system riportio ar-lein
📲 anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae cymorth ar gael trwy Cyswllt Gwent:
📞 ffôn 0300 123 21 33
💻 gwefan www.connectgwent.org.uk.