Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion heddlu ym Mlaenau Gwent wedi bod yn ymweld â thrigolion ledled y fwrdeistref i siarad am eu gwasanaeth negeseuon newydd, Cyswllt Cymunedol Gwent.
Mae’r gwasanaeth, sy’n rhad ac am ddim, yn galluogi trigolion Blaenau Gwent i gofrestru a derbyn negeseuon e-bost gan eu tîm plismona cymdogaeth am ddigwyddiadau diweddar yn eu hardal, apeliadau am wybodaeth, cyngor atal trosedd a mwy.
Ers i’r fenter gael ei chyflwyno yn y fwrdeistref, mae dros 1,000 o bobl wedi cofrestru ac wedi dechrau derbyn newyddion gan eu swyddogion lleol.
Meddai Arolygydd Stevie Warden:
“Mae’r tîm a minnau’n falch o’r ymateb i’r gwasanaeth negeseuon newydd, ac mae llawer o drigolion wedi datgan diddordeb mewn derbyn newyddion am blismona a chyngor atal trosedd gan swyddogion.
“Rydym wedi ymroi i amddiffyn y cyhoedd rhag effeithiau trosedd, a thrwy’r gwasanaeth newydd yma, gallwn roi’r newyddion diweddaraf iddyn nhw am y gwaith rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â throseddau ac anfon negeseuon sy’n helpu pobl i amddiffyn eu hunain a’u heiddo rhag troseddau fel dwyn neu dwyll.
“Er enghraifft, efallai ein bod ni wedi derbyn adroddiadau am gynnydd mewn achosion o ddwyn o siediau neu dai allan yn Abertyleri. Wrth i’n swyddogion ymchwilio, gallwn eich hysbysu chi am y cynnydd yma, rhannu cyngor gyda chi ynghylch amddiffyn eich eiddo, rhannu apêl i adnabod rhywun efallai wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, ac wedyn eich hysbysu chi pan fydd rhywun wedi cael ei arestio.
“Mantais arall yw bod y partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw – fel Gwarchod Cymdogaeth ac Action Fraud – yn defnyddio’r system yn barod, sy’n golygu y bydd trigolion yn gallu dewis derbyn newyddion ganddyn nhw hefyd.
Ar hyn o bryd, dim ond trigolion sy’n byw ym Mlaenau Gwent sy’n gallu derbyn y gwasanaeth, ond y gobaith yw y bydd yn cael ei gyflwyno mewn siroedd a bwrdeistrefi eraill yn yr ardal heddlu.
Ydych chi’n byw ym Mlaenau Gwent? A fyddech chi’n hoffi derbyn y newyddion plismona diweddaraf gan eich tîm cymdogaeth? Dysgwch fwy ac ymunwch yn y sgwrs trwy fynd i https://www.cyswlltcymunedolgwent.co.uk/.