Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar ôl i swyddogion ddarganfod ffatri canabis gyda mwy na 350 o blanhigion mewn eiddo masnachol gwag yn Ystrad Mynach.
Ynghyd â swyddogion o’r uned troseddau trefnedig difrifol, gweithredodd tîm plismona cymdogaeth gogledd Caerffili warant mewn eiddo ar Bedwlwyn Road, Ystrad Mynach, tua 4.10pm dydd Sul 16 Mehefin.
Yn yr adeilad dau lawr, daethant o hyd i ryw 361 o blanhigion canabis ar draws wyth ystafell.
Yn ystod y cyrch, datgymalodd swyddogion y ffatri ac atafaelu cyffuriau dosbarth B, cyfarpar cysyllt edig â chynhyrchu cyffuriau, a ffôn.
Meddai Rhingyll Tom Brookes:
“Ar ol chwilio’r adeilad, gwnaethom arestio dyn 26 oed ar amheuaeth o dyfu canabis. Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
“Rydym wedi ymroi o hyd i weithredu yn sgil unrhyw wybodaeth mae’r cyhoedd yn gallu ei rhoi i ni am droseddau cyffuriau yn ein cymunedau, fel y mae’r gwarantau yma’n dangos.
“Hwn yw’r trydydd cnwd canabis sylweddol mae’r tîm wedi’i dadorchuddio dros y misoedd diwethaf yng ngogledd Caerffili ac rwy’n gobeithio ei bod yn anfon neges glir y byddwn yn parhau i gymryd camau pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth, yn parhau i weithredu gwarantau, dwyn pobl gerbron y llysoedd a thynnu cyffuriau oddi ar ein strydoedd.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gyflenwi cyffuriau, hyd yn oed os nad ydych chi’n credu ei bod yn bwysig iawn, cysylltwch â ni. Mae cynhyrchu a chyflenwi cyffuriau’n gallu cael effeithiau pellgyrhaeddol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i amddiffyn pobl rhag niwed.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth am droseddau cyffuriau yng Ngwent ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X.
Gallwch ffonio Crimestoppers hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 111.