Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Cocker Avenue, ger cyffordd Henllys Way yng Nghwmbrân, wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel wyneb cyfarwydd ac annwyl yn y dref.
Aeth swyddogion i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng tri cherbyd – Caterham Seven glas, Hyundai Tucson glas a fan Ford Transit – ar Cocker Avenue tua 6pm dydd Iau 13 Mehefin.
Cyhoeddwyd bod gyrrwr y Caterham Seven, dyn 75 oed o Gwmbrân, wedi marw yn y fan a’r lle.
Gellir cyhoeddi yn awr mai ei enw yw Graham Crowley; mae ei deulu agosaf wedi cael eu hysbysu ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae teulu Graham wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
"Roedd Graham yn byw yng Nghwmbrân am bron i 50 mlynedd ac roedd yn wyneb cyfarwydd ac annwyl yn y dref.
"Rydym wedi ein syfrdanu a’n tristau gan ei farwolaeth sydyn ond mae’n gysur i ni ei fod yn y car a oedd yn golygu cymaint iddo pan fu farw."
Graham Crowley
Mae ymholiadau i’r gwrthdrawiad yn parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a oedd ar Cocker Avenue a Henllys Way yng Nghwmbrân rhwng 5.45pm a 6.10pm dydd Iau 13 Mehefin, gysylltu â ni.
G all unrhyw un â lluniau camera car neu TCCC perthnasol gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2400195496.