Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau o bobl o Aberbargod wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau cyflenwi cyffuriau yn dilyn gwarant mewn eiddo preswyl yn y dref.
Yn ystod yr ymgyrch, arestiodd swyddogion o dîm gorfodi cymdogaeth gogledd Caerffili fenyw 54 oed a dyn 44 oed ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Mae’r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa.
Meddai Cwnstabl Heddlu Thomas, swyddog yn yr achos:
"Mae ein tîm yn parhau i gasglu ac i weithredu ar ôl cael unrhyw wybodaeth am gyflenwi cyffuriau yn ein cymunedau.
"Mae ymgyrchoedd fel yr un yn Aberbargod heddiw’n dangos ein hymrwymiad i waredu ein strydoedd o gyffuriau anghyfreithlon ac amddiffyn y cyhoedd rhag effeithiau dinistriol defnyddio cyffuriau a throseddau cysylltiedig."
"Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch delio cyffuriau yn eich cymuned, ac os ydych yn credu bod gennych chi wybodaeth a allai ein helpu ni i ganfod y bobl sy’n gyfrifol, cysylltwch â ni.”
Gallwch ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X gydag unrhyw fanylion rydych yn credu bydd yn helpu.
Fel arall, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.