Stamp amser presennol: 25/06/25 05:02:12
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Gwent Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Arloesedd a gweithredoedd dewr yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Blynyddol yr Heddlu

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 15:54 27/11/24

Force awards collage.png

Mae rhyw 90 o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr wedi derbyn gwobrau i gydnabod eu hymroddiad a'u cyfraniad rhagorol i blismona yng Ngwent.

Yn ystod y seremoni, a gynhaliwyd yn Bryn Meadows Golf Hotel & Spa ddydd Mawrth 26 Tachwedd, cafodd saith aelod o'r cyhoedd eu gwobrwyo hefyd am ddangos dewrder eithriadol.

Ymysg yr enillwyr roedd swyddog a gynlluniodd raglenni i gyfyngu ar drwyddedau drylliau i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig, a swyddogion a ymatebodd yn chwim i achub bywyd.

 

Dyma rai yn unig o'r enillwyr a ddewiswyd gan banel o feirniaid:

Bod yn dosturiol 

Ymchwilydd Staff yr Heddlu Scott Thomas

Rhoddodd Ymchwilydd Staff yr Heddlu Thomas gymorth i ddioddefwr trosedd amharod ymgysylltu â'r broses cyfiawnder troseddol.

Bod yn ddewr 

Cwnstabl Heddlu Patrick Bell  

Cwnstabl Heddlu Bell oedd y cyntaf i gyrraedd safle ymosodiad gan gi. Diolch i'w feddwl chwim a'i ymddygiad digynnwrf, llwyddodd i leddfu anafiadau posibl i'r dioddefwr ac atal pobl eraill rhag cael eu brifo.

Bod yn falch 

Cwnstabl Heddlu Nathan Elias

Cwnstabl Heddlu Alfie Price  

Roedd cwnstabliaid heddlu Elias a Price yn cynnal ymholiadau am berson ar goll a oedd mewn perygl o drais gan eu partner.

Gan weithio gyda phartneriaid, llwyddodd y swyddogion i drefnu bod y dioddefwr yn dychwelyd yn ddiogel a gwnaethant roi cymorth parhaus ar waith ar eu cyfer.

Parhau i ddysgu 

Arolygydd Jodie Davies

Mae Arolygydd Jodie Davies wedi datblygu offer asesu sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr, holiadur 30 pwynt sy'n cael ei adnabod fel Prosiect Titanium, ar gyfer trwyddedu arfau tanio.

Gan weithio gyda thîm o ddau o oroeswyr cam-drin domestig a throseddegydd, mae'r offer asesu yma'n adnabod dangosyddion a gweithredwyr cam-drin domestig pan fydd rhywun yn gwneud cais am drwydded arfau tanio, a thrwy hynny mae’n diogelu dioddefwyr cam-drin domestig a sicrhau nad yw pobl anaddas yn gallu bod yn berchen ar arfau tanio'n gyfreithiol. 

Swyddog Cymdogaeth y Flwyddyn

Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCC) Linzi Nicholls 

Mae SCC Linzi Nicholls wedi gweithio'n ddiflino i sefydlu Tŷ Cymunedol yn Brynfarm, Brynmawr, gan greu man diogel i bobl o bob oedran, ac mae hi wedi dod yn rhywun mae'r gymuned yn ymddiried ynddi.

Cyfraniad rhagorol i wirfoddoli

Cwnstabl Gwirfoddol Elise Thomas

Mae Cwnstabl Gwirfoddol Elise Thomas wedi gwirfoddoli dros 600 o oriau eleni er ei bod yn gweithio amser llawn.

Mae ganddi berthynas anhygoel gyda'i chydweithwyr rheolaidd ac mae hi bob amser yn llwyddo i wneud i bobl wenu.

Swyddog heddlu'r flwyddyn

Rhingyll Heddlu Dan Wise

Mae Rhingyll Heddlu Dan Wise wedi gweithio’n ddiymdroi ers iddo ymuno â thîm plismona cymdogaeth Blaenau Gwent.

Trwy ddadansoddi gwybodaeth am drosedd yn yr ardal, aeth Dan ati i nodi’r bobl allweddol a oedd yn cael yr effaith fwyaf negyddol ar y gymuned leol.

I fynd i'r afael â hyn, creodd Ymgyrch Greyhawk - ymgyrch weithredol i fynd i'r afael â throseddau fel cario arfau, delio cyffuriau, cyflawni troseddau cerbyd a throseddau meddiangar eraill.

Diwylliant

Ditectif Arolygydd Phil O’Connell

Ditectif Ringyll Angela Hodge

Ditectif Ringyll Andy Roe

Mae Phil, Angela ac Andy wedi dangos agwedd gadarnhaol ac arweinyddiaeth ardderchog.

Er gwaethaf yr heriau yn yr adran, maen nhw wedi codi safonau ymchwiliadau ymysg eu timau.

Gwobr Partneriaeth

SCC Clare Montgomery Brown SCC Mark Watts

Gweithiodd Clare a Mark yn agos gyda Safonau Masnachu i fynd i'r afael â gweithgarwch troseddol cysylltiedig â fêpio.

Gwnaethant adnabod adeiladau ac unigolion a oedd yn ymwneud â storio a chyflenwi fêps anghyfreithlon, a arweiniodd at Brosiect Firecrest.

Trwy'r gwaith yma, cafwyd nifer o warantau ac atafaelwyd gwerth bron i £2 filiwn o fêps a thybaco anghyfreithlon a chaewyd nifer o adeiladau masnachol.

Gwobr Dewrder y Cyhoedd

Rebecca McDonald

Lee McDonald

Rhoddodd Rececca a Lee McDonald gymorth i ddyn a oedd wedi cael ei drywanu.

Gwnaeth y ddau ohonynt bopeth o fewn eu gallu i helpu'r dyn ac i ddiogelu bywyd cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, heb unrhyw oedi na phryder am eu diogelwch eu hunain.

Gwobr Dewrder y Cyhoedd

Dominic Walker

Ian Dudley 

Cafodd gweithwyr cynnal a chadw'r tiroedd Dominic Walmer ac Ian Dudley eu cydnabod hefyd am gynorthwyo swyddogion gyda throseddwr a drodd yn dreisgar yn ystod arést.

Gwobr Dewrder y Cyhoedd

Andrew Winstone

Ross Goodwin

Phillip Turner

Yn ôl yn 2022, helpodd y tri aelod o Glwb Bowlio Pant-teg ferch ifanc, Grace, a oedd wedi cwympo i mewn i'r dŵr ym Mharc Fishponds ac a oedd yn ddiymateb. Gwnaethant ei hachub hi o'r dŵr a rhoi cymorth cyntaf i achub bywyd nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Uned Hyfforddiant Gweithredol

Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth ardderchog yn gyson, gan gynnig hyfforddiant o ansawdd uchel a gwaith partner llwyddiannus, sy'n cael ei gyflawni'n hynod o broffesiynol.

 

Mae'r hyfforddwyr yn cael eu cydnabod yn rhanbarthol yn eu maes ac mae'r hyfforddiant taser wedi cael ei ganmol gan y prif hyfforddwr taser a'r Coleg Plismona.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Cwnstabl Heddlu Garrad Davies

Cwnstabl Heddlu Thomas Simmonds

Cwnstabl Heddlu Lewys Kinsey

 

I gydnabod y dewrder a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd wrth achub person o dân mewn tŷ. Roedd hyn yn arbennig o anodd gan fod y person yn y tŷ yn gwrthod eu help.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Ditectif Gwnstabl Connor Edmunds

Am ei ddewrder pan gafodd ei herio gan ddyn arfog, treisgar.

 

Er gwaethaf dioddef anaf ei hun, llwyddodd Ditectif Gwnstabl Edmunds i gymryd yr arf oddi ar y dyn, gan rwystro canlyniad difrifol posibl i'r rhai oedd yn bresennol.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Arolygydd Hannah Welti

Cwnstabl Heddlu Lewis James

Cwnstabl Heddlu Beth Jackson

Arweiniodd y swyddogion yma ymgyrch i dargedu un o'r grwpiau troseddau trefnedig mwyaf yn y rhanbarth. Arweiniodd eu hymdrechion diflino at remandio pedwar prif aelod y grŵp troseddau trefnedig i'r llys.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Cwnstabl Heddlu Alex Webb

Am ei ddewrder yn perfformio adfywiad cardiopwlmonaidd (CPR) ar faban ifanc iawn.

Mae'r mathau yma o alwadau yn arbennig o ddirdynnol bob amser, a dylai Cwnstabl Heddlu Webb fod yn falch o'r gofal, y sensitifrwydd a'r dewrder a ddangosodd i'r baban a'r teulu.

 

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Rhingyll Heddlu Mitchell Harris

Rhingyll Heddlu Sean Fletcher

Cwnstabl Heddlu Elliot Morgan

Cwnstabl Heddlu Kirsty Maddern

Cwnstabl Heddlu Justin Davies

Cwnstabl Heddlu David Solomon

Cwnstabl Heddlu Garrad Davies

Cwnstabl Heddlu Will Scarrett

Cwnstabl Heddlu Lee Green

Cwnstabl Heddlu Michael Price

Cwnstabl Heddlu Emma Coyle

Cwnstabl Heddlu wedi Ymddeol Paul Greenwood

Maen nhw'n cael eu cydnabod am y dewrder a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd ganddynt wrth ymateb i berson hunanladdol ar bont traffordd.

 

Gwnaethant ddefnyddio cyfarpar, gan gynnwys eu gwregysau eu hunain, mewn amodau peryglus, i ddiogelu'r person hunanladdol ac aelod o'r cyhoedd a oedd yn ceisio helpu.

 

Arweiniodd swyddogion o'r tîm plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol bedwar cerbyd HGV at leoliadau strategol o dan y bont i liniaru unrhyw gwymp posibl.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Ditectif Ringyll Carrie Streeter

Cwnstabl Heddlu Emma Lewis

 

Am yr ymroddiad a'r sensitifrwydd a ddangoswyd wrth ymchwilio i achos hanesyddol o gam-drin plant ifanc yn rhywiol. Arweiniodd eu dyfalbarhad at ddedfryd o garchar am 23 mlynedd i'r troseddwr.

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Cwnstabl Heddlu Elinor Green

Cwnstabl Heddlu Patrick Bell

 

Maen nhw'n cael eu cymeradwyo am eu gweithredoedd chwim wrth ymateb i ddyn diymateb ac am y sensitifrwydd a ddangoswyd ganddynt at fenyw ofidus iawn a oedd gydag ef.

 

Gwnaethant weinyddu CPR a rhoi meddyginiaeth achub bywyd iddo, a arweiniodd at ei adferiad. 

Cymeradwyaeth y Prif Gwnstabl

Paul Evans

Jodie Stitt

Oliver Hughes

 

Ymrwymodd y tîm gwybodaeth busnes i raglen o waith i wella perfformiad ac effeithlonrwydd.

Trwy ddeall anghenion y busnes a'r defnyddwyr, gwnaethant ail gynllunio'r system gwybodaeth busnes a lansio Gwent Insights.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.