Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
i Mae'r hysbysiad adran 60 yng Nghasnewydd yn dilyn adroddiad o ymosodiad yn Nash Road bellach wedi'i godi.
Hoffem ddiolch i drigolion a'r gymuned ehangach am eu cydweithrediad.
Bydd swyddogion yn aros yn yr ardal wrth iddynt gynnal ymholiadau i'r ymosodiad honedig.
Mae ail berson, bachgen 17 oed o Gasnewydd, hefyd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae'n dal i fod yn nalfa'r heddlu.
-
Cawsom adroddiad am ymosodiad ger Nash Road, Casnewydd, tua 1.30pm ddydd Iau 7 Tachwedd.
Aeth swyddogion yno ac arestio bachgen 16 oed o ardal Casnewydd ar amheuaeth o gyflawni ymosodiad adran 18 – clwyfo bwriadol.
Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty am driniaeth ac ni chredir bod ei anafiadau'n peryglu ei fywyd nac y byddant yn newid ei fywyd.
Yn dilyn adroddiadau am anhrefn yng Nghasnewydd nos Iau, cafodd hysbysiad adran 60 ei awdurdodi i roi pwerau ychwanegol i swyddogion stopio a chwilio unigolion.
Dyma'r ardaloedd a gwmpesir gan yr hysbysiad, fydd yn weithredol o 7pm ddydd Iau 7 Tachwedd tan 7pm ddydd Gwener 8 Tachwedd: Dolphin Street, Commercial Road, Duke Street, West Market Street, Albert Street, Bolt Street, Francis Drive a Francis Street.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Carl Williams:
"Mae'r hysbysiad Adran 60 hwn yn fesur rhagofalus i gadw ein cymunedau yng Nghasnewydd yn ddiogel, ond rwy'n deall y gallai achosi pryder i drigolion hefyd.
"Efallai y gwelwch fwy o swyddogion yng Nghasnewydd tra bod yr hysbysiad hwn ar waith, felly os oes gennych unrhyw bryderon yna dewch atom i drafod.
"Ond rwyf am atgoffa pobl hefyd y byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn pobl sy'n achosi aflonyddwch ac yn ymddwyn mewn ffordd gwbl amhriodol."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad honedig gysylltu â ni drwy ein gwefan, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod log 2400371556.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda manylion ar 0800 555 111.