Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn ymchwilio i adroddiad am ddifrod troseddol i gar heddlu â lifrai yn Aberthaw Road, Casnewydd, tua 3.10pm dydd Mercher 30 Hydref.
Credir bod person anhysbys wedi taflu bricsen at gar heddlu â lifrai a oedd wedi parcio yn y maes parcio yng ngorsaf heddlu Alway.
Doedd dim swyddogion yn y car ar y pryd ac ni chafwyd unrhyw adroddiad am anafiadau, ond achoswyd difrod i do’r car.
Mae swyddogion eisiau siarad â’r person yma (gweler y llun), a oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad.
Roedd y person yn reidio beic oddi ar y ffordd oren ac yn gwisgo mwgwd a chot North Face lliw tywyll.
Meddai Uwch-arolygydd Jason White:
“Mae car heddlu â lifrai’n fwy na rhywbeth mae swyddogion yn ei ddefnyddio i fynd i ddigwyddiadau brys yn unig, mae’n adnodd sy’n ein helpu ni i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
“Mae’r gweithredoedd difeddwl yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar ein gallu i ymateb i drosedd gan fod angen i bob un o’n cerbydau sy’n cael eu difrodi gael eu trwsio.
“Fel adnodd cyhoeddus, yn anffodus y trethdalwr sy’n gorfod mynd i’w boced i gynorthwyo i drwsio cerbydau mewn digwyddiadau o ddifrod troseddol fel hwn.”
Os ydych chi’n adnabod y person ar y beic, neu os oes gennych chi wybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, cysylltwch â ni ar y wefan, ffoniwch 101, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2400361548.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers gyda gwybodaeth, yn ddienw, ar 0800 555 111.