Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Keiran Bass, 28 oed, o'r Coed Duon, yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau 27 Chwefror, lle wynebodd gyhuddiadau o gyflenwi cyffuriau.
Ar 26 Tachwedd 2023, derbyniodd swyddogion Rhymni adroddiad bod dyn yn anymatebol mewn car a oedd wedi ei barcio ar Rowan Place, Rhymni.
Wrth i’r heddlu ymateb i'r alwad, gadawodd Bass y cerbyd cyn i swyddogion ei chwilio a chanfod y glorian.
Wedi chwilio'r car ymhellach daethpwyd o hyd i fagiau bach yn cynnwys cocên, ac arian parod.
Cafodd Bass ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o’u cyflenwi cyn i swyddogion fynd i’w gyfeiriad yn y Coed Duon i gynnal rhagor o chwiliadau - lle daethon nhw o hyd i fwy o gyffuriau, offer cyffuriau a ffonau.
O ddadansoddi’r ffonau hyn canfuwyd tystiolaeth o gyflenwi cyffuriau.
Dywedodd y Rhingyll Tom Brookes:
"Mae swyddogion ledled Bwrdeistref Caerffili yn parhau yn ddi-baid i fynd ar drywydd troseddwyr sy'n niweidio ein cymunedau drwy gyflenwi cyffuriau.
"Mae'r canlyniadau hyn yn bosib oherwydd y rôl bwysig sydd gan drigolion wrth roi gwybod am eu pryderon ynghylch cyflenwi cyffuriau - sy'n helpu i greu ein darlun o gudd-wybodaeth ac yn rhoi cyfle i ni ddod â throseddwyr o flaen y llysoedd."
Dedfrydwyd Bass i 28 mis o garchar.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon neu ddelio yn eich cymuned, rhowch wybod i ni drwy'r wefan, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i ni allu gweithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111, gyda gwybodaeth neu ewch i'w gwefan.