Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dau ddyn mewn cysylltiad ag adroddiad am fyrgleriaeth ym Mhengam.
Galwyd swyddogion i Fair View yn dilyn adroddiad bod tri dyn wedi mynd i mewn i gyfeiriad tua 1.45am ddydd Mawrth 20 Mai.
Yn ôl y sôn ymosodwyd ar ddyn yn yr eiddo ac aeth i’r ysbyty’n ddiweddarach i gael triniaeth. Mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Arestiwyd dyn 37 oed o ardal Wolverhampton a dyn 32 oed o ardal Stafford, y ddau ohonynt ar amheuaeth o fyrgleriaeth waethygedig. Cawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Mae hyn ar ôl i swyddogion arestio dyn 37 oed o Lundain ar amheuaeth o fyrgleriaeth waethygedig, gyrru peryglus a bod ag arfau tanio yn ei feddiant.
Cafodd ei gyhuddo o yrru cerbyd modur yn beryglus, bod ag arf tanio yn ei feddiant a rhodio â chyfarpar byrglera a chafodd ei remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd.
Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad am fygythiadau i ladd a byrgleriaeth waethygedig bwriadol ac mae ymholiadau’n parhau.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad ffonio 101, cysylltu â ni ar ein gwefan neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2500158756.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers hefyd, yn ddienw, drwy ffonio 0800 555 111 neu drwy fynd ar eu gwefan i riportio ar-lein yn anhysbys.