Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Lansiwyd y rhaglen 'Yn y cwrt iawn' gan y tîm gyda'r nod o ddod â phobl ifanc Rhymni at ei gilydd i hyrwyddo cymunedau cadarnhaol, iechyd a ffitrwydd.
Mae'n rhan o Parchu Rhymni, menter Clirio, Cynnal ac Adeiladu* y tîm plismona cymdogaeth, sy'n ceisio cael gwared ar gangiau troseddol o’r ardal, cynyddu balchder yn yr ardal ac addysgu pobl ifanc am ganlyniadau troseddu ac ymddygiad afreolus.
Dywedodd yr Arolygydd Thompson:
"Yn ystod yr wythnos gyntaf yn unig, gwelsom dros 30 o blant, rhwng tair a deuddeg oed, yn dod draw i'r cyrtiau yn Rhymni i gwrdd â swyddogion.
"Rydyn ni i gyd wrth ein bodd bod cymaint o bobl ifanc wedi gallu mwynhau eu hunain yn y fenter dros 14 wythnos, ond hefyd wedi dysgu ychydig am eu cymuned a rhoi yn ôl i'r pentref.
"Rhoddodd gyfle gwych i ni gwrdd â'r plant a'u gwarcheidwaid, ac, yn ogystal â'r holl dennis a chwaraewyd, dechrau sgwrs ynghylch sut y gall ein hymddygiad a'n gweithredoedd effeithio ar ble rydyn ni'n byw - yn gadarnhaol ac yn negyddol.
"Diolch i bawb a fu’n rhan o’r fenter dros yr haf. Rydyn ni nawr yn gweithio'n galed i sicrhau cyllid i'w gwneud yn ddigwyddiad blynyddol yn Rhymni - rhywbeth yr oedd yr holl gyfranogwyr yn ei fynnu erbyn y sesiwn olaf!"
Mae'r tîm hefyd wedi lansio cynllun Hyrox cymunedol yn Ystrad Mynach, ac maen nhw'n paratoi ar gyfer diwrnod gwasanaethau brys i'r teulu yng Nghlwb Ieuenctid Rhymni ar 4 Hydref.
*Mae Parchu Rhymni, menter Clirio, Cynnal, Adeiladu Heddlu Gwent, yn cynnwys tri cham.
Mae’r cam Clirio wedi gweld ein swyddogion yn gweithio’n galed i dargedu grwpiau troseddol gan darfu arnyn nhw a’u rhwystro nhw rhag gweithredu; wedyn mae gwaith gorfodi ac ymgysylltu’n parhau er mwyn Cynnal yr ardal ac atal grwpiau troseddol eraill rhag llenwi’r bwlch.
Mae’r cam ‘Adeiladu’ yn rhoi pwyslais ar feithrin balchder yn yr ardal, a dysgu plant a phobl ifanc am ganlyniadau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am waith y tîm plismona cymdogaeth yn yr ardal, ewch i https://www.gwent.police.uk/cy-GB/news/gwent/newyddion/news/2025/june/gwent-officers-serve-up-summer-of-community-fun/.